Mae cwmni Savior Beds wedi symud i safle ar Stad Ddiwydiannol Gellihirion yn Nhrefforest. Cyn hynny roedd ffatri’r cwmni wedi’i lleoli yn Ffynnon Taf, lle bu’n gweithredu am 14 o flynyddoedd.
Ar gyfer Gwesty’r Savoy yn Llundain y cafodd gwelyau â’r brand Savoir eu cynhyrchu’n wreiddiol, a hynny ym 1905. Y cwmni yma sy’n cynhyrchu’r gwelyau mwyaf moethus yn y byd, yn ôl y sôn. Mae prisiau’r gwelyau, sy’n cael eu paratoi’n bwrpasol, yn cychwyn o £20,000.
Agorodd cangen Cymru’r cwmni ym 1997 pan benderfynodd criw o weithwyr oedd wedi colli eu swyddi yn ffatri welyau Rest Assured yn y Rhondda ffurfio eu cwmni cydweithredol eu hunain, sef ‘The Welsh Bed Company’. Arferai’r cwmni yma wneud gwelyau â llaw fel is-gontractwr i Savoir Beds cyn ymuno’n ffurfiol â’r cwmni yn 2005.
Mae’r ffatri newydd ar Stad Ddiwydiannol Gellihirion yn fwy na’r un flaenorol ac yn cyflogi 36 o bobl. O ardal Rhondda Cynon Taf a Chaerffili y daw’r rhan fwyaf o’r rhain. Ar ôl agor y ffatri yn swyddogol, aeth y Prif Weinidog yn ei flaen i wylio’r staff wrth eu gwaith.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’n rhoi pleser mawr imi fod yma i agor y ffatri newydd, ac rwy’n falch fod y cwmni gwelyau yma, sydd iddo enw mor dda, wedi ymsefydlu yma yng Nghymru. Dyma gwmni sydd wedi datblygu o gwmni â’i wreiddiau yng Nghymru, ac mae’n darparu swyddi gwerthfawr yn yr ardal i weithwyr hynod o grefftus.
"Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y crefftwaith sydd ei angen i gynhyrchu gwelyau mor uchel eu safon. Mae’n beth da fod y sgiliau traddodiadol yma’n cael eu cadw a’u datblygu yma yng Nghymru, er mwyn creu cynnyrch sydd gyda’r gorau yn y byd."











