Bydd y swyddfa newydd yn canolbwyntio ar ddenu buddsoddiadau a masnach ryngwladol. Mae’n parhau ag ymrwymiad y Prif Weinidog i weithio i hyrwyddo Cymru i’r byd er mwyn rhoi hwb i economi’r wlad.
Bydd y swyddfa, ar Victoria Street yn ardal San Steffan, yn symleiddio trefn waith y Llywodraeth yn Llundain drwy ddisodli’r ddwy swyddfa sydd yno ar hyn o bryd. Bydd y saith aelod o staff yn gweithio i hyrwyddo Cymru.
Bydd y swyddfa yn bresenoldeb parhaol ac yn ganolbwynt i waith Llywodraeth Cymru yn y ddinas a bydd yn galluogi Gweinidogion i barhau i ddatblygu cysylltiadau â busnesau, llysgenadaethau a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio’r swyddfa i gwrdd â buddsoddwyr posibl. Bydd yn weithredol erbyn canol mis Gorffennaf.
Mae sefydlu’r swyddfa newydd yn Llundain yn dod yn sgil cyfres o ymweliadau tramor a theithiau masnach gan y Prif Weinidog - bu yn India, Tsieina a’r Unol Daleithiau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhaglen newydd o ddeg taith fasnach i leoliadau ym mhob cwr o’r byd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae Llundain yn un o brif ddinasoedd masnachol y byd – ac mae ar garreg ein drws. Gallwn fanteisio ar hyn drwy ddefnyddio Llundain fel porth i farchnadoedd byd eang a buddsoddwyr posibl. Bydd ein swyddfa newydd yn gweithio i godi proffil Cymru gan sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle.
"Bydd uwch swyddog profiadol yn arwain y gwaith, gyda thîm o reolwyr busnes a fydd yn helpu cwmnïau Cymru i ehangu, denu buddsoddiad a cheisio cael mynediad i farchnadoedd newydd. Mae’n rhaid i ni, fel gwlad, greu cyfleoedd ym myd busnes a bydd ein swyddfa yn Llundain yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o wneud hynny."
Jonathan Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata o fewn yr Adran Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth fydd pennaeth y swyddfa. Dywedodd:
"Gan gofio pa mor agos yr ydym at San Steffan ac ardal fusnes y ddinas, bydd y swyddfa newydd yn ganolfan berffaith ar gyfer hyrwyddo Cymru fel lle i fuddsoddi a chynnal busnes. Mae’r rôl hon yn anrhydedd ac edrychaf ymlaen at arwain ein hymdrechion i hybu economi Cymru drwy ddenu buddsoddiad o safon o farchnadoedd rhyngwladol."











