Mae’r cynllun yn rhan o brosiect sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ledled y pedwar awdurdod lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Bydd y £60,000 yn mynd tuag at weithgareddau yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac mae wedi dod o raglen Ardal Adfywio Môn a Menai Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â stondin Cyngor Gwynedd yn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon lle cyfarfu â phobl ifanc sydd wedi elwa o’r cynllun Llwyddo’n Lleol. Bwriad y cynllun yw atal y llif o bobl ifanc sy’n symud o gefn gwlad drwy gyfres o weithgareddau sy’n datblygu diwylliant arloesi.
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn mynd tuag at y digwyddiadau ar gyfer sectorau penodol fydd yn help i ysbrydoli a meithrin disgyblion Blwyddyn 9 ar eu dewis o bynciau ac ystyriaethau gyrfaol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’n bwysig bod gan bobl ifanc y cyfle i ddilyn gyrfa yn yr ardal leol. Mae Llwyddo’n Lleol yn helpu i wneud hyn drwy roi hyder a sgiliau arloesi i bobl ifanc, fydd yn ei dro o gymorth i ddatblygu’r economi leol. Mae yna ganlyniadau llwyddiannus eisoes o ganlyniad i waith Llwyddo’n Lleol ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy yn hyn o beth yn y dyfodol.
"Mae’n bleser gen i heddiw allu cyhoeddi cyllid gan Raglen Môn a Menai i gefnogi’n ymhellach y cynllun hwn."
Dywedodd Arweinydd Portffolio Economi Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd John Wynn Jones:
"Ers i Gyngor Gwynedd sefydlu’r fenter arloesol Llwyddo’n Lleol yn 2004 mae wedi cefnogi dros 1,000 o bobl ifanc y sir. Rydym yn falch bod syniad Gwynedd nawr yn cael ei weithredu ledled ardal y gogledd orllewin er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc lwyddo yn eu cymunedau eu hunain. Mae dros 2,500 o bobl ifanc wedi elwa o’r prosiect ar draws y gogledd orllewin."
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2008 mai Môn a Menai oedd ail ardal Ardal Adfywio Strategol Cymru.











