Bydd gweithfa beiriannau newydd Wall Colmonoy yn cynhyrchu castiadau aloi nicel a chobalt o’r safon uchaf. Defnyddir i cydrannau hyn mewn diwydiannau caled fel awyrofod, modurol, cemegol, rasio Formula 1 a chynhyrchu pŵer.
Caiff 230 o bobl eu cyflogi ar y safle a bydd 80 y cant o’r nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu yno’n cael eu hallforio.
Mae’r cyfleuster 25,000 troedfedd sgwâr newydd yn rhan o brosiect mawr i ehangu adnoddau gweithgynhyrchu Pontardawe. Costiodd tua £9 miliwn, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o £2 miliwn.
Aeth y Prif Weinidog ar daith o’r safle gyda Bill Clark, cadeirydd a pherchennog y rhiant-gwmni o UDA, gan weld cyfleusterau cynhyrchu a chynhyrchion Wall Colmonoy â’i lygaid ei hun.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Rwy’n falch iawn o gael agor y cyfleuster peirianneg blaengar hwn, sy’n dyst i waith caled ac ymroddiad yr holl ddynion a menywod sydd wedi gwneud Wall yn fath fusnes llwyddiannus heddiw.
"Mae’r penderfyniad i ehangu yma ym Mhontardawe yn hwb mawr i weithgynhyrchu yng Nghymru ac i economi Cymru. Mae gallu Wall Colmonoy i fod yn gystadleuol ac ymrwymo i Gymru yn y cyfnod economaidd anodd hwn yn dangos ymroddiad go iawn a bydd fy llywodraeth yn parhau i’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wall Colmonoy Ltd, Norman Allnatt:
"Mae’r cwmni bod yng Nghymru ers dros 40 mlynedd ac mae’r cwmni wedi ffynnu drwy gymorth parhaus Llywodraeth Cymru a’i ragflaenydd, gan gadw swyddi o safon a pharhau â hanes metelegol yr ardal."











