Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Trefnu croeso haeddiannol i arwyr Cymreig Tîm Olympaidd Prydain

Wrth i Gemau Olympaidd 2012 ddirwyn i ben, mae Carwyn Jones, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi y bydd digwyddiad yn cael ei gynnal i roi croeso adref i’r athletwyr Cymreig a fu’n rhan o Dîm Olympaidd Prydain.
Dydd Sul 12 Awst 2012
Trefnu croeso haeddiannol i arwyr Cymreig Tîm Olympaidd Prydain

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r byd aros am seremoni gloi’r Gemau pan ddiffoddir y Fflam Olympaidd i nodi diwedd y digwyddiad.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol wrthi’n trefnu dathliad ar y cyd i roi croeso adref i’r Olympiaid a’r Paralympiaid ar 14 Medi.
 
Meddai’r  Prif Weinidog:

“Gall pawb yng Nghymru fod yn wirioneddol falch o’r hyn y mae ein hathletwyr wedi ei gyflawni fel rhan o Dîm Olympaidd Prydain. Mae eu penderfyniad a’u hegni yn wir wedi ysbrydoli pawb, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr i gyfanswm y medalau y mae Prydain wedi eu hennill.

“Gall y Deyrnas Unedig ei llongyfarch ei hun am ei llwyddiant wrth gynnal y Gemau Olympaidd yma, o weledigaeth greadigol gampus Danny Boyle gyda’r seremoni agoriadol i’r campau gwych eu hunain; dyma’r Gemau gorau erioed.

“Mae Cymru wedi chwarae ei rhan, o leoli gwersylloedd hyfforddi nifer o wledydd cyn y Gemau, i groesawu’r byd i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer yr un ar ddeg o gemau pêl-droed Olympaidd. Mae cyswllt Cymreig cryf gyda thîm beicio Prydain sydd gyda’r gorau yn y byd, ac fe fuon nhw’n hyfforddi rhywfaint cyn y Gemau yn y Felodrom yng Nghasnewydd.

“Dyna pam rydyn ni’n trefnu digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener, 14 Medi i groesawu’r arwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Byddwn yn rhyddhau rhagor o fanylion am y digwyddiad yn nes at yr amser, ond rwy’n galw ar bawb sy’n gallu dod i roi croeso adref haeddiannol iddyn nhw.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 12 Awst 2012 Gemau olympaidd 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i