Caiff y fedal unigryw ei rhoi ar ran y Frenhines i anrhydeddu ymrwymiad a gwasanaeth wrth iddi nodi ei 60 mlynedd ar yr orsedd.
Mae aelodau o’r Timau Achub Mynydd sydd wedi gwasanaethu am fwy na phum mlynedd wedi derbyn y medalau mewn digwyddiad ym mhencadlys Tîm Chwilio ac Achub Mynydd Gorllewin y Bannau.
Roedd aelodau o Dîm Achub Mynydd y Bannau Canolog, Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru a Chymdeithas Chwilio ac Achub De Cymru yn y digwyddiad hefyd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae’r medalau hyn yn cydnabod gwaith y rheini sy’n ymrwymo i wasanaethu’r cyhoedd ac yn bendant mae gwaith y timau achub hyn yn haeddu cael cydnabyddiaeth.
“Maen nhw’n rhoi cymorth hanfodol bwysig i’n gwasanaethau brys wrth ddarganfod ac achub pobl sydd wedi mynd ar goll ac wedi’u hanafu ar draws y de a’r canolbarth. Gwirfoddolwyr yw’r rhain sy’n gorfod ariannu eu hunain yn llwyr ac mae’r medalau hyn yn ffordd i ni i gyd ddangos ein gwerthfawrogiad o’u gwaith."
Dywedodd Nick Hardwidge o Dîm Chwilio ac Achub Mynydd Gorllewin y Bannau:
"Fel aelodau o dîm achub gwirfoddol, dyw unigolion ddim yn awyddus fel arfer i roi cyhoeddusrwydd i’r hyn rydyn ni’n ei wneud; ond mae’n anrhydedd cael y medalau hyn gan Ei Mawrhydi’r Frenhines. Rydyn ni hefyd yn hynod falch bod y Prif Weinidog wedi cydnabod y cymorth gwerthfawr rydyn ni’n ei roi i’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans, a’i fod wedi cytuno i roi’r medalau i rai o aelodau’r tîm."











