Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i ymddeol

Cyhoeddodd pennaeth Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru, y Fonesig Gillian Morgan, ei bod yn bwriadu ymddeol o’i swydd fel Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru.
Dydd Mercher 20 Mehefin 2012

Wrth gyhoeddi ei hymddeoliad, dywedodd y Fonesig Gillian Morgan:

"Nid ar chwarae bach y gwnes i’r penderfyniad i ymddeol o’m swydd fel yr Ysgrifennydd Parhaol.  Does dim byd yn bwysicach i mi na dyfodol hirdymor Cymru a’r bobl sy’n byw yma.

"Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf i mi arwain sefydliadu sydd wedi ymrwymo i gefnogi Gweinidogion i wella bywydau pobl Cymru.

"Dw i’n hynod falch o’r hyn rydym wedi llwyddo i’w gyflawni yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, yn arbennig mewn amgylchedd ariannol ac economaidd heriol iawn.  Drwy ddangos doethineb, rydym wedi gwella effeithlonrwydd ar draws y sefydliad, ac ar yr un pryd wedi llwyddo i leihau ein costau rhedeg yn sylweddol.

"Yn ystod y ddwy flynedd ar hugain ddiwethaf dw i wedi bod yn gysylltiedig â rheoli nifer o sefydliadau ar lefel Bwrdd neu Brif Weithredwr ond gallaf ddweud, o ddifrif calon, fod arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wedi bod yn un o gyfnodau mwyaf boddhaus a chyffrous fy ngyrfa."

Wrth sôn am gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Parhaol, dywedodd Carwyn Jones y Prif Weinidog:

"Ga i ddiolch i Gill am ei hymrwymiad yn ystod ei chyfnod fel yr Ysgrifennydd Parhaol.

"Nid yw delio â heriau ariannol y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hawdd, i’r Gweinidogion nac i’r Gwasanaeth Sifil ei hun.  Ac mae Gill wedi arwain trwy gyfnod sydd wedi gweld maint y sefydliad yn lleihau’n sylweddol, gan barhau i ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ceisio ei wneud trwy’r Rhaglen Lywodraethu.

"Dw i’n gwybod y bydd fy nghyd-aelodau o’r Cabinet a phawb sy’n gweithio yma yn ymuno â mi i ddiolch iddi am bopeth y mae wedi’i wneud.

"Mae’n hollbwysig bod y Gwasanaeth Sifil yn cael ei arwain yn effeithiol er mwyn i’r Gweinidogion gael y gefnogaeth sydd ei hangen i wneud yr hyn y maen nhw wedi’u hethol i’w wneud.  Bydd yn rhaid i bwy bynnag sy’n camu i esgidiau Gill feddu ar y sgiliau a’r profiad i wneud un o’r swyddi mwyaf yng Nghymru."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 20 Mehefin 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i