Mae cyfreithiau a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru yn dal yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Nid fel hynny y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan fod ganddynt hwy awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân.
Ym mis Mawrth, lansiodd Llywodraeth Cymru drafodaeth gyhoeddus i ofyn a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw fydd dydd Mawrth, 19 Mehefin.
Meddai Theodore Hucke CF, y Cwnsler Cyffredinol:
“Ar hyn o bryd, mae’r holl gyfreithiau sy’n cael eu pasio ar gyfer Cymru, boed hynny gan y Cynulliad, Gweinidogion Cymru, Senedd San Steffan neu Weinidogion Llywodraeth y DU, yn dod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Mae hyn oherwydd bod Cymru a Lloegr yn rhannu’r un awdurdodaeth gyfreithiol, a bod un system o lysoedd, barnwyr a phroffesiynau cyfreithiol wedi datblygu’n nodwedd neilltuol o’r awdurdodaeth honno.
"Rydym ni’n glir y gall awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân fodoli o fewn Teyrnas Unedig – mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau eu hunain sy’n wahanol i’r un ar gyfer Cymru a Lloegr.
"Yn y cyd-destun hwn, dyma’r amser iawn i ystyried a ddylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru ai peidio. Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn hyn i fanteisio ar y cyfle i fynegi eu barn ar y mater cyfansoddiadol pwysig hwn ac ymateb i’r ymgynghoriad."











