Roedd angen dau gwch achub gan y Sefydliad Badau Achub yr RNLI a dau hofrennydd gan y Llynges a’r Awyrlu i achub y saith llongwr o Wlad Pwyl wedi i’w llong fynd i drafferthion pan drawyd arfordir Cymru gan wyntoedd Nerth 9 a thonnau pum metr o uchder.
Achubwyd pump o’r criw gan hofrennydd Sea King yr Awyrlu a gafodd ei alw o RNAS Prestwick, yr Alban. Galwyd hofrennydd arall gan yr Awyrlu o Leconfield, Swydd Efrog i gasglu’r ddau aelod arall.
Mae’r criwiau wrthi’n asesu’r difrod i’r llong 82 metr wedi iddi daro’r creigiau ger Bae Colwyn.
Meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog:
“Fe garwn anfon fy niolch llwyraf i bawb a gymerodd rhan yn y digwyddiad neithiwr.
“Roedd y tywydd a’r amodau ar y môr yn ofnadwy. Gallwn fod yn hynod falch o ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gwasanaethau brys.
“Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau gydol y nos. Byddwn nawr yn canolbwyntio ar gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen i arbed y llong, ac i ofalu bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i leihau unrhyw effaith bosib ar yr amgylchedd.”











