Bydd hyn yn digwydd er gwaethaf y setliad ariannol gwaethaf i unrhyw ran o'r DU, gyda Llywodraeth y DU yn torri 42.6% mewn termau real o gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru dros y 4 blynedd nesaf.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod buddsoddi cyfalaf mewn seilwaith o bwys yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu twf yn yr economi, cefnogi'r diwydiant adeiladu sydd o dan bwysau mawr, a darparu'r amodau angenrheidiol sy'n galluogi'r sector preifat i dyfu a chreu swyddi.
Yn ôl ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r prosiectau mawr a fu ar waith drwy gydol 2011-12. Bydd y buddsoddiadau cyfalaf hyn yn gwario dros £780m y flwyddyn ariannol hon. Maent yn cynnwys:
- £144m mewn addysg
- £259m mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- £95m mewn busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth
- £234m mewn trafnidiaeth
- £46m mewn llywodraeth Leol
Mae'r symiau hyn yn ychwanegol i fwy na £100m sy'n dod o Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog i gefnogi blaenoriaethau adrannol.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos bydd Prif Weinidog Cymru'n cyhoeddi cyfres o fesurau ar y camau gweithredu ar y cyd y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu unigolion a busnesau yng Nghymru i ddelio ag effaith y dirywiad economaidd a'r argyfwng ariannol byd-eang.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth y DU i gwtogi ar yr arian sydd ar gael inni ei fuddsoddi mewn ysgolion, ysbytai a ffyrdd newydd a phrosiectau mawr eraill, rwy'n hollol benderfynol o wneud yn siŵr y bydd y llywodraeth dan f'arweiniad i'n buddsoddi yn ein seilwaith cenedlaethol.
"Y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £780m mewn ysgolion newydd, ysbytai newydd a seilwaith sylweddol arall ledled y wlad. Mae'r arian hwn erbyn hyn yn cael ei drosi'n waith adeiladu gweladwy ar safleoedd ar draws Cymru. .
"Mae bron i £700m o fuddsoddi cyfalaf ar y gweill ar gyfer iechyd yn ystod y tair blynedd nesaf. Ar 26 Mai, cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, fuddsoddiad cyfalaf gwerth £77m i ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd ac ar 20 Gorffennaf cyhoeddwyd £2.8m yn ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau arennol yng ngogledd Powys.
"Hefyd, bydd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, yn cyhoeddi'n fuan y bydd tua £90m o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer y cam nesaf o brosiectau cyfalaf a gedwir yn ganolog ar gyfer 2012-13 a 2013-14; cyhoeddodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, yn ddiweddar y bydd £34m ar gael ar gyfer cynlluniau gwastraff a chynaliadwyedd; ac o ran addysg, bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi rhaglen newydd o fuddsoddi yn Ysgolion yr 21ain Ganrif ym mis Rhagfyr.
"Mae hyn yn dangos yn glir ein bod yn buddsoddi mewn prosiectau sylweddol y bydd economi Cymru'n elwa ohonynt."
Fe wnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad na fydd unrhyw oedi wrth fuddsoddi mewn adeiladau ac offer newydd yn y GIG.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Gadewch imi egluro - ni fydd oedi i unrhyw brosiectau cyfalaf GIG. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn buddsoddi dros £700m yn ein hysbytai, mewn canolfannau gofal sylfaenol newydd ac mewn cyfarpar sy'n defnyddio'r dechnoleg fwyaf cyfoes. Bydd hyn yn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cael y cyfleusterau, yr offer a'r dechnoleg angenrheidiol i ddarparu gofal iechyd o'r radd flaenaf i bobl Cymru.
"Mae gwaith ar yr holl brosiectau sydd wedi'u cymeradwyo a'u hymrwymo i gontract yn parhau fel y'i cynlluniwyd. Gall y byrddau iechyd gyflwyno cynlluniau sydd i fod cael eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan y Gweinidogion o fewn y tri mis nesaf, a chânt eu hystyried gan swyddogion yn y dull arferol cyn eu cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd.
"O safbwynt unrhyw gynigion gan fyrddau iechyd yn y dyfodol, byddai'n hollol anghyfrifol inni roi cymeradwyaeth gyffredinol cyn inni ddeall sut maent yn cyd-fynd â'r cynlluniau ehangach i gyflawni gwasanaethau lleol sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel. Fel yr eglurodd y Gweinidog Iechyd mewn Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae hi'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gymeradwyo'r buddsoddiad newydd yn y Flwyddyn Newydd. Felly, ni fydd y cynlluniau sydd wrthi'n cael eu datblygu gan fyrddau iechyd yn cael eu heffeithio gan ddatganiad y Gweinidog Iechyd, gan nad ydym yn disgwyl achosion busnes ar gyfer y rhain o fewn y chwe mis nesaf."
Dywedodd y Prif Weinidog fod yn rhaid canolbwyntio'r holl fuddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol ar wneud y mwyaf o'r buddion cynaliadwy i economi Cymru, ac ar yr un pryd gwneud gwelliannau i wasanaethau, fel y gallwn gyflawni o fewn ein hadnoddau penodedig.
Aeth y Prif Weinidog yn ei flaen:
"Mae ein hymrwymiad i'r sector adeiladu yn hollol glir. Dyma pam ein bod wedi cynnwys y diwydiant adeiladu, sydd â thua 10,000 o fusnesau'n cyflogi 100,000 o bobl yng Nghymru, yn ein sectorau blaenoriaeth ar gyfer Rhaglen Adnewyddu'r Economi . Mae gan y rhaglen rôl ganolog i'w chwarae wrth ddarparu tai fforddiadwy, seilwaith cludiant gwell, ysgolion ac ysbytai gwell a seilwaith ynni gwyrdd.
"Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Gynllun Buddsoddi Seilwaith i Gymru. Bydd y cynllun yn nodi'r blaenoriaethau seilwaith allweddol yng Nghymru; yn galluogi blaenoriaethu rhwng sectorau seilwaith fel ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau am arian ac yn annog y sector preifat mewn modd positif i fuddsoddi yng Nghymru. Caiff hyn ei wneud drwy ddarparu mwy o eglurder a sicrwydd o ran ein blaenoriaethau buddsoddi yn y tymor canolig a'r hir dymor."
Bydd y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod o Gyngor Llywodraeth Cymru ar Adnewyddu'r Economi ddydd Mercher, a fydd yn cydgysylltu'r ymdrech i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni i gefnogi adferiad a thwf economi Cymru.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
"Mae'r dirywiad yn y sefyllfa economaidd yn y DU ac yn fyd-eang yn enbyd. Dyna pam yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf y bydd fy Llywodraeth i'n cyflwyno cyfres o gyhoeddiadau i ddiogelu a chefnogi economi Cymru. Bydd y cyhoeddiadau hyn - ynghyd â buddsoddi strategol mewn prosiectau cyfalaf - yn lleihau'r fiwrocratiaeth i fusnesau, yn cynorthwyo'r sector adeiladu sy'n adfeilio ac yn helpu economi Cymru i ddelio â phroblemau economaidd difrifol a byd-eang sy'n parhau."











