Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol gyda DVD

Lansiwyd DVD i leihau a rhwystro ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan bobl ifanc.
Dydd Iau 18 Mawrth 2010

Lansiodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones “I Didn’t Think,” yn swyddfa Llywodraeth y Cynulliad ym Merthyr Tydfil.

Mae’r DVD “I Didn’t Think” yn dysgu plant am ganlyniadau ymddygiad gwrth-gymdeithasol a bydd yn cael ei ddysgu o fewn cynllun gwers i ddisgyblion ysgol gynradd ar draws Cymru fel rhan o Rhaglen Gysylltu Ysgolion Cymru Gyfan.

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Swyddfa Gartref a’r pedwar heddlu Cymreig, mae’r ffilm ddwy-ieithog yn dilyn y prif gymeriad Ricky ac yn edrych ar yr effaith y mae ei ymddygiad yn cael ar ei hunan, ei deulu a’r gymuned ehangach.

Meddai Carwyn Jones:

“Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn gallu andwyo ein cymunedau, ac mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb a gweithio gyda’n gilydd i gael gwared ar y broblem.

“Mae’r DVD wedi ei greu fel rhan o gynllun arbennig sy’n helpu ein plant i ddeall pynciau sy’n berthnasol i’w hunain a’u cymunedau, ac yn bwriadu lleihau trosedd drwy addysg.”  

Crewyd y DVD gan Bonnie Navarra, cyd-gysylltydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy’n cael ei chyflogi gan Heddlu De Cymru a Chyngor Sir Bwrdeistref Merthyr Tydfil.

Meddai hi:

“Drwy ein gwaith gyda phobl ifanc a rhieni, fe sylweddolom nad oedd llawer o bobl yn gwybod beth oedd ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

“Fe wnaeth hyn ddangos fod angen ail-addysgu’r cyhoedd am ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac fe benderfynnom nad oedd lle gwell i ddechrau nag mewn ysgolion.

“Mae’r DVD Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol Cymru gyfan yn arf pwysig newydd yn yr ymgyrch i leihau a rhwystro ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn pobl ifanc.”

Roedd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan, yn y lansiad hefyd.

17 Mawrth 2010

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gostwng troseddu

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 18 Mawrth 2010 Gostwng troseddu Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i