Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Neges y Prif Weinidog Carwyn Jones AC ar gyfer y Flwyddyn Newydd

'Mae'r Flwyddyn Newydd yn gyfle i edrych at y dyfodol, ac mae hwn yn gyfnod pwysig imi fel Prif Weinidog newydd Cymru.Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i wasanaethu pobl Cymru drwy arwain Llywodraeth Cynulliad Cymru.'
Dydd Iau 31 Rhagfyr 2009

'Roedd 2009 yn gyfnod economaidd heriol inni, ond roedd ein gwerthoedd craidd o gyfiawnder cymdeithasol o werth mawr inni. Cefais fy magu i barchu'r cysyniad o chwarae teg, a bellach gallwn sicrhau fod ymwybyddiaeth gref Cymru o gyfrifoldeb cymdeithasol a chyfiawnder yn arwain ein democratiaeth ifanc.

Drwy gydweithio yn yr ysbryd hwnnw, rydym yn dod drwy'r trafferthion, a thros y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau â'r dasg o feithrin yr economi; sydd ei hangen i sicrhau ffyniant i bawb.

Rwy'n sicr fy marn bod llwyddiant yn dibynnu ar addysg a sgiliau ein pobl. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyblu nifer y prentisiaethau dros y degawd diwethaf – ac er gwaethaf y pwysau sydd ar ein cyllideb, rydym yn benderfynol o barhau i gryfhau gwaith gwerthfawr ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion.

Unwaith eto tanlinellodd y gynhadledd ddiweddar yn Copenhagen beryglon mawr y newid yn yr hinsawdd. Bydd Cymru yn gwneud popeth posibl i gefnogi'r ymateb rhyngwladol – ond bydd yr argyfwng hefyd yn arwain at gyfleoedd. Ein nod yw i Gymru arwain y ffordd o ran datblygu technolegau newydd i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang, ac arwain y broses o osod y sylfeini i economi gadarn a chynaliadwy ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Un wers a ddysgwyd o'r flwyddyn ddiwethaf yw bod llywodraeth ddatganoledig yn llwyddiannus. Mae cyfarfodydd ein Huwchgynhadledd Economaidd wedi galluogi pob partner cymdeithasol i ddod at ei gilydd – a mantais datganoli yw ein bod yn gallu cymryd camau'n gyflymach. Mae syniadau newydd fel ProAct wedi cael eu gwireddu yn syfrdanol o gyflym ac mae BBC wedi disgrifio'n cynllun Achub Morgeisi fel 'cynllun gorau'r DU’.

Mae cael llywodraeth yng Nghymru wedi rhoi llais cryfach inni yn Ewrop, ac mae'n hyder a'n hysbryd fel cenedl wedi gwella o naid i naid.

Mae Cymru'n barod ar gyfer y degawd newydd, ac yn 2010 rwy'n edrych ymlaen at baratoi ar gyfer y cam nesaf.

Yn 2010 byddwn yn ceisio cael rhagor o bwerau i’r Cynulliad er mwyn i ni eu defnyddio er budd pobl Cymru.

Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a llwyddiannus i bawb.'

31 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Prentisiaethau yng Nghymru Newid hinsawdd

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 31 Rhagfyr 2009 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i