Etholwyd Mr Morgan yn Brif Weinidog ym mis Chwefror 2000 a daeth yn Brif Weinidog ym mis Hydref y flwyddyn honno, pan newidiwyd teitl y swydd.
Unwaith y bydd yr ymddiswyddiad wedi’i dderbyn gan EM y Frenhines, gofynnir i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog newydd.
Meddai Rhodri Morgan:
“Mae datganoli wedi dod â llawer o newidiadau i Gymru ac ym mhlith y llwyddiannau a ddaeth yn ei sgîl yw presgripsiynau am ddim – y ffordd symlaf o sicrhau’r budd mwyaf i’r cleifion – parcio di-dâl mewn ysbytai, teithiau bws am ddim i bobl dros 60 oed a’r cwricwlwm newydd Dysgu trwy Chwarae i blant rhwng 3 a 7 oed.
“Mae datganoli hefyd wedi ein galluogi i ddod yn wlad fach glyfar, ac roedd hynny’n amlwg yn ein hymateb cadarn i heriau’r dirwasgiad.
“Mewn un ystyr, y peth olaf sydd arna i ei eisiau yw ymddeol tra bo’r dirwasgiad yn parhau. Ond ar y llaw arall, mae’r dirwasgiad wedi gwneud i bawb gyd-dynnu’n rhyfeddol o dda i wrthsefyll effeithiau diweithdra, methiannau ym myd busnes a adfeddiannu tai. Dyna sut y sefydlwyd y cynllun ProAct llwyddiannus i atal diswyddiadau.
“Bu’n bleser ac yn fraint cael gwasanaethu fel Prif Weinidog, ac rwyf wedi mwynhau’r profiad yn aruthrol. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at dreulio rhagor o amser ar waith yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerdydd, ymlacio gyda fy nheulu sy’n prysur ehangu a mynd â’r ci am dro a phalu pridd fy rhandir.
“Ac wrth gwrs, rwy’n dymuno pob llwyddiant i fy olynydd.
“Rwy’n falch o’r hyn yr ydym wedi gallu’i gyflawni fel cenedl dros y ddegawd ddiwethaf, ac yn ddiolchgar i’r holl bobl sydd wedi fy helpu a’m cefnogi trwy gydol y cyfnod hwnnw. Yn bennaf oll, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael gwasanaethu pobl Cymru – diolch yn fawr ichi i gyd.”
7 Rhagfyr 2009











