Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan i sefyll i lawr

Bydd Rhodri Morgan yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth 8 Rhagfyr). Bydd yn cynnig ei ymddiswyddiad i Ei Mawrhydi y Frenhines ar ôl gorffen ei sesiwn olaf yn ateb Cwestiynau i’r Prif Weinidog a chwblhau’r ddadl ar gyllideb derfynol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010/11.

Dydd Llun 07 Rhagfyr 2009
Prif Weinidog Cymru yn agoriad swyddogol Hafod Eryri

Etholwyd Mr Morgan yn Brif Weinidog ym mis Chwefror 2000 a daeth yn Brif Weinidog ym mis Hydref y flwyddyn honno, pan newidiwyd teitl y swydd.

Unwaith y bydd yr ymddiswyddiad wedi’i dderbyn gan EM y Frenhines, gofynnir i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog newydd.

Meddai Rhodri Morgan:

“Mae datganoli wedi dod â llawer o newidiadau i Gymru ac ym mhlith y llwyddiannau a ddaeth yn ei sgîl yw presgripsiynau am ddim – y ffordd symlaf o sicrhau’r budd mwyaf i’r cleifion – parcio di-dâl mewn ysbytai, teithiau bws am ddim i bobl dros 60 oed a’r cwricwlwm newydd Dysgu trwy Chwarae i blant rhwng 3 a 7 oed.

“Mae datganoli hefyd wedi ein galluogi i ddod yn wlad fach glyfar, ac roedd hynny’n amlwg yn ein hymateb cadarn i heriau’r dirwasgiad.  

“Mewn un ystyr, y peth olaf sydd arna i ei eisiau yw ymddeol tra bo’r dirwasgiad yn parhau. Ond ar y llaw arall, mae’r dirwasgiad wedi gwneud i bawb gyd-dynnu’n rhyfeddol o dda i wrthsefyll effeithiau diweithdra, methiannau ym myd busnes a adfeddiannu tai. Dyna sut y sefydlwyd y cynllun ProAct llwyddiannus i atal diswyddiadau.

“Bu’n bleser ac yn fraint cael gwasanaethu fel Prif Weinidog, ac rwyf wedi mwynhau’r profiad yn aruthrol. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at dreulio rhagor o amser ar waith yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerdydd, ymlacio gyda fy nheulu sy’n prysur ehangu a mynd â’r ci am dro a phalu pridd fy rhandir.

“Ac wrth gwrs, rwy’n dymuno pob llwyddiant i fy olynydd.

“Rwy’n falch o’r hyn yr ydym wedi gallu’i gyflawni fel cenedl dros y ddegawd ddiwethaf, ac yn ddiolchgar i’r holl bobl sydd wedi fy helpu a’m cefnogi trwy gydol y cyfnod hwnnw. Yn bennaf oll, mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cael gwasanaethu pobl Cymru – diolch yn fawr ichi i gyd.”

7 Rhagfyr 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 07 Rhagfyr 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i