Bydd y llinell gymorth yn cryfhau'r rhwydwaith cynghori wrth iddo wynebu mwy o bwysau nag erioed o blaen gan bobl sy'n gorfod addasu eu ffordd o fyw oherwydd y dirwasgiad. Cafodd Canolfannau Cyngor ar Bopeth Cymru gyfanswm o tua 300,000 o ymholiadau yn 2008-2009, sef cynnydd blynyddol o 11%.
Wrth siarad yn y Senedd cyn i Ganolfannau Cyngor ar Bopeth ddathlu eu pen-blwydd yn 70, dywedodd y Prif Weinidog:
"Bydd y cyllid hwn yn talu am sefydlu gwasanaeth ffôn sy'n fawr ei angen; bydd yn gweithio drwy Ganolfan Alwadau Rithwir ac yn ei gwneud yn haws i bobl gael cyngor yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd hefyd yn gallu diwallu anghenion mwy o gleientiaid ledled Cymru, sy'n newyddion arbennig o dda yn y cyfnod economaidd anodd hwn.
"Dros y 70 mlynedd ddiwethaf mae Cyngor ar Bopeth wedi bod yn edrych i'r dyfodol a defnyddio technolegau newydd er budd ei gleientiaid. Nid yw'n sefyll yn ei unfan; yn hytrach, mae'n ymateb yn uniongyrchol i'r cynnydd sylweddol yn y galw am ei wasanaethau yn ystod y dirwasgiad. Mae'r cyllid newydd hwn yn dangos ein bod yn benderfynol o roi rhagor o help i deuluoedd i’w helpu i ddod drwy'r dirwasgiad.
"A minnau hefyd wedi dathlu fy mhen-blwydd yn 70 oed eleni, gallaf ddeall pwysigrwydd y garreg filltir fawr hon i’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth. Ond er fy mod i’n rhoi gorau i'm swydd eleni, rwy'n gwybod y bydd Cyngor ar Bopeth Cymru yn darparu mwy o wasanaethau ac yn parhau i fynd o nerth i nerth."
Meddai Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:
"Rydym yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn fawr. Fel rhwydwaith o elusennau annibynnol yn y gymuned, rydym yn benderfynol o wella’r mynediad at ein gwasanaethau ac at Wasanaeth Cyngor ar Bopeth dros y ffôn, i bawb yng Nghymru allu cysylltu â Chanolfannau Cyngor ar Bopeth drwy un rhif ffôn. Gan ei bod yn debygol y bydd y dirwasgiad presennol yn cael effaith bellgyrhaeddol a hirhoedlog, bydd mwy byth o alw ar ein gwasanaethau cynghori dros y tymor byr a chanolig. Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn haws i'r rheini y mae angen help arnynt gysylltu â'r gwasanaeth. Bydd y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth dros y ffôn yn hollol ddwyieithog, sy'n dangos ein hymrwymiad clir i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a Saesneg."
11 Tachwedd 2009











