Wrth siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan MENCAP Cymru i nodi Wythnos Anabledd Dysgu, roedd y Gweinidog yn cydnabod y cyfraniad y mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn ei wneud i gymunedau lleol trwy Gymru, a dywedodd sut y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â throseddau casineb ac yn helpu i greu cymunedau mwy diogel.
Dywedodd Jane Hutt:
"Mae achosion o droseddau casineb yn peri arswyd ac maent yn annerbyniol. Dylai pobl sydd ag anableddau dysgu deimlo’n rhydd i fyw eu bywydau heb ofn a heb ddioddef camwahaniaethu. Rwyf am i Gymru fod yn gymdeithas deg sydd wedi ei seilio ar egwyddorion cydraddoldeb, gwerthoedd cyffredin a dealltwriaeth.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i sefydlu Fframwaith Gweithredu trwy Gymru i fynd i’r afael â throseddau casineb fel rhan o’r Rhaglen Lywodraethu a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol."Mae hyn yn cael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid trwy Gymru, lle mae egni ac ymroddiad pendant i’w gael. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Grŵp Gweithredu Troseddau Casineb ar sail Anabledd er mwyn penderfynu pa gamau i’w cymryd.
"Fel rhan o’n gwaith o ddatblygu’r Fframwaith, rwy’n falch o gyhoeddi bod holiadur ar-lein ar wefan Lywodraeth Cymru er mwyn inni gael gwybod beth, yn eich barn chi, a ddylai fod yn flaenoriaethau inni.
"Hoffwn annog pawb i lenwi’r holiadur a dweud wrthym ni am eu profiadau personol a’r heriau y maen nhw wedi eu hwynebu. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni fynd i’r afael â’r heriau yma, a gwneud cymunedau pawb yn ardaloedd mwy diogel i fyw, i weithio, ac i chwarae ynddynt."











