Thema Wythnos y Ffoaduriaid eleni yw "Dathlu Naws Groesawus Cymru", a dywedodd Jane Hutt y dylai Cymru fod yn falch o’r croeso cynnes y mae’n ei gynnig i ffoaduriaid.
Meddai Jane Hutt:
"Mae gan Gymru draddodiad hir ac anrhydeddus o gynnig croeso cynnes i ffoaduriaid. Mae’r traddodiad croesawus yma yn arbennig o bwysig i bobl sy’n dod i Gymru i geisio lloches, gan fod llawer ohonyn nhw wedi gorfod gadael eu teuluoedd a’u ffrindiau.
"Mae’n anodd iawn dechrau bywyd newydd mewn gwlad newydd, yn aml heb rwydwaith o bobl i’ch cefnogi, ac yn arbennig pan rydych wedi gadael dan amgylchiadau anodd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol a chymunedau o ffoaduriaid i sicrhau ein bod yn diwallu’r anghenion amrywiol sydd gan geiswyr lloches a ffoaduriaid yma yng Nghymru.
Mae’r Gymru sydd ohoni yn gymdeithas sydd wedi ei seilio ar gymunedau amrywiol ac amlddiwylliannol o bobl sy’n dod o bob math o gefndiroedd ac sydd â nodweddion a phrofiadau unigryw. Rydw i’n credu’n gryf mai dyna pam fod Cymru yn genedl mor fywiog."
Yng Ngorffennaf 2011, aeth Llywodraeth Cymru ati i gyhoeddi Cynllun Gweithredu ei Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. Ers hynny, mae gwaith wedi ei wneud i symud y camau sydd yn y Cynllun Gweithredu yn eu blaenau, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan gyrff megis Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Partneriaeth Ymfudo Cymru, Alltudion ar Waith, Asiantaeth Ffiniau’r DU, a Chefnogi Eraill trwy Weithgarwch Gwirfoddol. Erbyn hyn, mae’r Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddiweddaru i ymgorffori’r gwaith a wnaed hyd yn hyn.
Ychwanegodd Jane Hutt:
"Bydd yn cymryd mwy o amser i wireddu rhai o amcanion y Cynllun Gweithredu, ond byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyrraedd y nod cyffredinol o rhoi cymorth i ffoaduriaid, a’u galluogi i ail-greu bywyd iddyn nhw eu hunain yng Nghymru ac i wneud cyfraniad llawn i’r gymdeithas."











