Wrth gwrdd â chynrychiolwyr mudiadau’r trydydd sector a grwpiau cydlyniant cymunedol o wahanol ranbarthau, pwysleisiodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn dal ati i wneud ei gorau i sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn byw dan ofn rhagfarn.
Dywedodd Jane Hutt:
"Rydw i wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd pawb yng Nghymru. Beth bynnag yw cefndir pobl, fe ddylen nhw gael yr un cyfleoedd â phawb arall.
"Bydd y Fforwm Hil yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd ati’n strategol ar lefel genedlaethol i edrych ar Gydraddoldeb Hil. Bydd yn sicrhau bod cyrff a mudiadau sydd â diddordeb mewn materion hil yn cael cyfle i leisio’u barn ar faterion polisi perthnasol.
"Gan y Fforwm fe gawn ni’r cymorth a’r cymorth sydd eu hangen arnom er mwyn deall y materion a’r rhwystrau sy’n wynebu cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, a sut gellir eu goresgyn. Bydd hefyd yn ein helpu i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth ynghylch gwybodaeth berthnasol er mwyn datblygu amcanion cydraddoldeb clir a phenodol."











