Cyhoeddodd y Gweinidog y fenter mewn seminar gan Anabledd Cymru.
Bydd y Fframwaith yn rhoi manylion y gwaith sydd i’w wneud ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, a chyda phartneriaid allanol, i helpu pobl i fyw’n annibynnol.
Bydd yn nodi meysydd lle mae angen gweithredu ac yn sicrhau bod y polisïau a’r strategaethau niferus sydd eisoes yn helpu pobl i fyw’n annibynnol yn cael eu cyfuno mewn un cynllun clir.
Bydd y Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol yn sail i ymdrechion Llywodraeth Cymru dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod pobl anabl yn cael chwarae teg, i gael gwared â rhagfarn ac i feithrin cysylltiadau da.
Dywedodd Jane Hutt:
"Dw i am weld pob dinesydd yng Nghymru yn cael eu parchu a’u trin yn gyfartal yn y gymdeithas, a phawb yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.
"Dw i wedi ymrwymo i helpu i sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael i bobl anabl a’u bod yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gymdeithas a chyfrannu’n llawn ati."
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
"Mae ein seminar ni’n cyflwyno menter fawr newydd gan Lywodraeth Cymru, un y mae Anabledd Cymru wedi ymgyrchu drosti am flynyddoedd lawer, ar gyfer pobl anabl, fel y gallan nhw reoli dros eu bywydau eu hunain i raddau mwy a chael y cymorth sydd ei angen i fyw’n annibynnol yn y gymuned."











