Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn lansio Fframwaith ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Heddiw (dydd Iau 29 Medi), lansiodd Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru y Fframwaith cyntaf ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ym Mhrydain.
Dydd Iau 29 Medi 2011

Nod "Teithio at ddyfodol gwell" a'i Gynllun Gweithredu yw sicrhau cyfle cyfartal i Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru trwy bennu dulliau ymarferol i Lywodraeth Cymru eu defnyddio i gyflawni'r nod hwnnw.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y T?, Jane Hutt:

"Mae Cymru erioed wedi ymfalchïo yn ei chymdeithas amrywiol gyda'i chyfoeth o ddiwylliannau a thraddodiadau. Mae diwylliant a threftadaeth y Sipsiwn a'r Teithwyr yn rhan o'r amrywiaeth honno.

"Mae'n hollbwysig inni allu cydfyw mewn cymunedau cryf ac unedig a hefyd ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau manteision economaidd a manteision i Gymru o fod yn wlad amrywiol sy'n parchu gwahaniaeth.

"Mae'n bleser gennyf lansio Teithio at ddyfodol gwell yma heddiw, a dw i'n gobeithio y bydd y newidiadau a ddaw yn sgil y ddogfen hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

Diben y Fframwaith yw datblygu cyfeiriad sy'n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer  llunio polisïau a mentrau ar draws adrannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn rhoi sylw i'r anghydraddoldebau y mae Sipsiwn a Theithwyr yn eu hwynebu yng Nghymru.

Mae'r ddogfen yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn creu cyfle teg a chyfartal i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr allu elwa ar flaenoriaethau allweddol, fel rhywle i fyw, iechyd ac addysg.

Dywedodd Ms Hutt:

"Mae'n hynod o bwysig inni sicrhau cydraddoldeb a gwella ansawdd bywyd i bob un ohonom yng Nghymru a dylen nhw gael yr un cyfleoedd â phawb arall."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 'Teithio at Ddyfodol Gwell' - Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 29 Medi 2011 Programme for Government - Equality Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i