Mae Canolfan Merched Gogledd Cymru yn lle diogel i fenywod allu cael gwybodaeth, cymorth, eiriolaeth, hyfforddiant, a hefyd eu hatgyfeirio, mewn perthynas â phroblemau gwaith ac iechyd. Yn ogystal â hynny, mae'r ganolfan yn cynnig cymorth cyfrinachol mewn argyfwng i helpu gyda phroblemau fel digartrefedd a cham-drin domestig.
Heddiw (dydd Mawrth 26 Gorffennaf), ymwelodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y T? yn Llywodraeth Cymru â'r Ganolfan i gwrdd â'r menywod ac i weld y gwaith sy'n cael ei gyflawni yno.
Nod y Ganolfan yw datblygu gallu a sgiliau menywod trwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys cwnsela a hefyd hyfforddiant trwy gyrsiau achrededig mewn pynciau fel TGCh, magu hyder ac iaith arwyddion.
Cynigir nifer o weithgareddau i'r menywod, fel gwirfoddoli, gr?p i famau a'u baban, prosiect cadwraeth a chôr y ganolfan.
Yn 2010-11, defnyddiodd dros 600 o fenywod y cyfleusterau hyn.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty:
"Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghanolfan Merched Gogledd Cymru yn gwbl ysbrydoledig ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd pob dydd y merched sy'n mynd yno.
"Mae'r ganolfan yn ymdrechu i sicrhau newidiadau buddiol enfawr i fenywod yn y Gogledd, er mwyn eu galluogi i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd y mae'r Ganolfan yn eu cynnig iddynt. Roedd yn bleser cwrdd â defnyddwyr y gwasanaeth a'r staff yma yn y Rhyl, ac i weld drosof fy hun y canlyniadau positif sy'n deillio o holl ymdrechion y ganolfan."











