Bydd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth yn mynd gyda Dacian Ciolos i’r Sioe lle gall y Comisiynydd weld drosto’i hun dirlun ffermio unigryw Cymru a chlywed am y pryderon sydd gan ffermwyr Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Alun Davies:
"Mae’n bleser gen i groesawu’r Comisiynydd i Gymru heddiw, a dwi’n hynod o falch ei fod yn gallu mwynhau un o uchafbwyntiau’n calendr amaethyddol.
"Rwy’n mawr obeithio y bydd y Comisiynydd Ciolos yn cael blas ar fwyd arbennig Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at drafod diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin gydag ef.
"Mae hyn yn gyfle da i amddiffyn buddiannau ffermwyr Cymru ac i wneud cynnydd pellach ym maes diwygio’r PAC. Rwy’n credu’n gryf bod angen sgiliau arwain da mewn cyfnod o newid yng Nghymru, ac rwy’n hyderus y gallwn sicrhau’r fargen orau i ffermwyr Cymru yn yr holl feysydd diwygio ac rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny."
Dywedodd y Comisiynydd Ewropeaidd, Dacian Ciolos:
"Rwyf wrth fy modd yn cael mynd i’r Sioe Frenhinol eleni a bydd yn bleser gennyf agor y digwyddiad.
"Rwy’n edrych ymlaen at fy nhrafodaethau â Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y ffermwyr, ac at glywed safbwyntiau ehangach gan bobl o Gymru, wrth i mi barhau â’n trafodaethau ynghylch diwygio’r PAC wedi 2013."











