Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Corff adnoddau naturiol newydd – eich barn am ei bwerau a’i ddyletswyddau

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn awyddus i glywed eich barn ynghylch sut y dylai’r corff newydd fydd yn rheoli adnoddau naturiol Cymru gael ei redeg a pha bwerau a dyletswyddau y dylai eu cael.
Dydd Llun 13 Awst 2012

Mae’r Gweinidog wedi lansio ymgynghoriad 8 wythnos ar agweddau gwahanol ar bwerau a swyddogaethau’r corff newydd a ddaw i fod ar 1 Ebrill 2013.

Bydd y corff newydd yn cymryd lle Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.  Ei amcan fydd rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd mor gynaliadwy ac effeithiol â phosib, gweithio mewn ffordd symlach a mwy di-lol ac osgoi dyblygu gwaith.

Rydym yn rhagweld y bydd y corff dros gyfnod o 10 mlynedd yn creu hyd at £158 miliwn o fuddiannau cyn costau, gan ryddhau adnoddau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen.

Meddai’r Gweinidog:

“Bydd gan y corff newydd ran bwysig iawn i’w chwarae i ddiogelu iechyd amgylchedd Cymru a’i heconomi, felly mae’n hanfodol ein bod yn gwneud pethau’n iawn.

“Rhaid i’r corff newydd wneud gwaith y tri chorff presennol o ran diogelu amgylchedd naturiol Cymru, cynnal ei dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol a gofalu bod cefn gwlad a’r arfordir ar gael i bawb.  Cyn bwysiced, bydd angen iddo ddatblygu i wynebu heriau’r dyfodol.

“Rwy am fod yn siwr bod gan y corff newydd ddyletswyddau a phwerau clir iddo allu cyflawni dros Gymru.  Bydd yr ymgynghoriad ychwanegol hwn yn rhoi safbwyntiau pellach i’n helpu i lunio’r corff newydd ac rwyf am annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu.”

Caiff yr ymgynghoriad ei rannu’n ddau.  Bydd y gyntaf yn edrych ar ddyletswyddau cyffredinol y corff newydd ac yn benodol ar y rheini sy’n ymwneud â harddwch naturiol, cadwraeth, mynediad, diogelu’r dirwedd hanesyddol a choedwigaeth.  Dyma’r dyletswyddau fydd yn cael eu dwyn ynghyd a’u cyfuno yn hytrach na dim ond eu trosglwyddo.

Bydd ail ran yr ymgynghoriad yn ystyried trefniadau gweithio a chyfreithiol y corff.  Yn eu plith: materion trawsffiniol; rheoleiddio a gorfodi, monitro a samplu safleoedd ac effeithiau trawsffiniol; ymateb i argyfyngau gan gynnwys trosglwyddo pwerau o dan y Rheoliadau Perygl Damweiniau Mawr (COMAH); a threfniadau pontio e.e. mesurau i drosglwyddo erlyniadau sy’n parhau, penderfyniadau a hawlebau i’r corff.

Mae’r ymgynghoriad yn datblygu’r gwaith ymgynghori sydd eisoes wedi’i gynnal ar drefniadau sefydlu’r corff newydd a sut y dylid ei gyfarwyddo.  Bydd yn para tan 5 Hydref 2012 a bydd ei ganlyniadau’n helpu i lunio’r Ail Orchymyn a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2013, pan ddaw’r corff yn weithredol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Corff Adnoddau Naturiol Cymru (ymgynghoriad ychwanegol)

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 13 Awst 2012 Yr Amgylchedd Ffermio a chefn gwlad Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i