Bydd y Gweinidog yn galw yn stondin Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn ystod ei ymweliad â Sioe Frenhinol Cymru, ac yn cyhoeddi ei fwriad i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio.
Mae’r cynllun yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i atal y dirywiad ym mhoblogaeth y gwenyn mêl, gwenyn cadw a phryfed hofran, sydd oll wedi gweld dirywiad difrifol dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
Wrth siarad cyn ei ymweliad â stondin Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, dywedodd y Gweinidog:
“Rydyn ni’n gwybod bod ugain y cant o dir dan gnwd y DU yn cynnwys cnydau sy’n dibynnu ar bryfed sy’n peillio; mae cyfran uchel o flodau gwyllt yn dibynnu ar bryfed i’w peillio er mwyn atgenhedlu; ac yn ôl amcangyfrif ceidwadol mae’r pryfed werth £430 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU. Felly mae peillio yn wasanaeth hanfodol bwysig i’r ecosystem.
“Er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae niferoedd y pryfed peillio wedi bod yn gostwng dros y 30 mlynedd diwethaf, ac rydyn ni’n gwybod y bydd y duedd hon yn parhau os na fyddwn yn gweithredu ar frys.
“Dyna pam rwy’n edrych ar ffyrdd o arafu a gwyrdroi’r gostyngiad yn niferoedd y pryfed sy’n peillio, a’r rheswm dros fy ymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater.
"Bydd Cymru’n arwain y ffordd ar y mater hwn, a’n Llywodraeth ni fydd y cyntaf yn y DU i gynhyrchu Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio."
Dywedodd ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear, Bleddyn Lake:
“Rydyn ni’n falch iawn i’r Gweinidog gamu mor gyflym i helpu i amddiffyn gwenyn a phryfed eraill sy’n peillio, sy’n dirywio’n ddifrifol ledled y DU.
“Mae miloedd o bobl eisoes yn cefnogi’n hymgyrch, The Bee Cause, sy’n galw am weithredu ar golli cynefinoedd a defnydd o blaladdwyr.
“Mae angen cymorth a chyngor ar ffermwyr, cynghorau a chymunedau i amddiffyn y pryfed peillio hanfodol hyn – byddai treian o’n bwyd yn diflannu hebddynt, ac fe fyddwn yn talu pris drud iawn os byddwn yn eu colli.
“Mae’n wych bod Cymru mor flaengar yn gweithredu i amddiffyn ein hamgylchedd ac arbed miliynau o bunnoedd i’n heconomi – rhaid i weddill y DU ddilyn yn gyflym.”
Bydd y cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau allweddol, a gallai gynnwys:
- Newidiadau i’r system gynllunio a fyddai’n helpu i sicrhau bod datblygiadau’n ‘gyfeillgar i bryfed sy’n peillio’
- Plannu mwy o blanhigion ‘cyfeillgar i bryfed sy’n peillio’ ledled yr ystâd gyhoeddus, gan gynnwys argloddiau rheilffyrdd ac ymylon ffyrdd
- Cydweithio gydag awdurdodau lleol i reoli parciau a mathau eraill o ofod gwyrdd cyhoeddus
- Annog planhigfeydd i werthu planhigion ‘cyfeillgar i bryfed sy’n peillio’ a rhoi cyngor i ddefnyddwyr
- Adeiladu sylfaen o dystiolaeth ynghylch effaith plaladdwyr drwy gydweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Gweithio’n agos gyda Chymdeithas Gwenynwyr Cymru a grwpiau gwirfoddol eraill.
Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol ag egwyddorion a osodwyd yn rhaglen ‘Cynnal Cymru Fyw’ Llywodraeth Cymru, ac yn edrych ar yr holl ecosystem.
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu’r cynllun ar y cyd ag asiantaethau a sefydliadau perthnasol.











