Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i ganiatáu eithriad o’r gofyniad mewn cyfnodau o dywydd eithriadol, ac mae eithriad mewn grym tan 12 Awst 2012.
Mae’r safon Cyflwr Amaethyddol Ac Amgylcheddol Da A3 yn gwahardd ffermwyr rhag gwneud gwaith mecanyddol a defnyddio cerbydau ar bridd dwrlawn. Bwriad y gofyniad trawsgydymffurfio yw atal pridd dwrlawn rhag cael ei gywasgu a’i ddifrodi ac felly osgoi gwaethygu problemau draenio a dŵr ffo pan fydd y pridd yn sychu.
Dylai ffermwyr fynd ar dir dwrlawn cyn lleied â phosibl a chofnodi unrhyw ddifrod i bridd yn sgil cynaeafu o dan yr eithriad dros dro, a’r camau unioni a gymerwyd yn eu llyfryn Cofnodion Asesu Pridd Trawsgydymffurfio.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Alun Davies:
“Mae’r glaw trwm diweddar wedi effeithio’n wael ar fusnesau yn ogystal ag unigolion ac rwy’n falch o gymryd y camau hyn i gefnogi ffermwyr a chwarae fy rhan i godi rhywfaint ar y baich hwn."











