Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y tâl 5c am fagiau yn ennill ei blwyf

Mae rhai o siopau Cymru’n dosbarthu 96% yn llai o fagiau siopa untro ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r tâl 5c, yn ôl ffigurau diweddaraf y manwerthwyr.
Dydd Mercher 04 Gorffennaf 2012
Y tâl 5c am fagiau yn ennill ei blwyf
Y tâl 5c am fagiau yn ennill ei blwyf

Hefyd, mae 70% o bobl Cymru o blaid codi tâl am y bagiau erbyn hyn.

Daw’r ystadegau hyn o ymchwil ymddygiad a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a ffigurau a gasglwyd gan gwmnïau manwerthu a Chonsortiwm Manwerthu Prydain. Y nod yw mesur effaith y tâl am fagiau untro, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 1 Hydref 2011.

Roedd ymchwil Prifysgol Caerdydd yn monitro agweddau pobl tuag at fagiau siopa ac yn edrych ar eu hymddygiad wrth siopa yn union cyn i’r tâl ddod i rym a chwe mis yn ddiweddarach.

Canfuwyd bod nifer y bobl oedd yn dweud eu bod wedi defnyddio’u bagiau eu hunain ar eu trip diwethaf i’r archfarchnad wedi cynyddu, o 61% ym mis Hydref 2011 i 82% erbyn mis Ebrill 2012. Roedd cefnogaeth pobl Cymru i’r tâl wedi codi hefyd, o 59% i 70% yn y cyfnod chwe mis. Roedd 17% yn llai yn gwrthwynebu’r tâl.

Cafwyd darlun positif o ganlyniadau sampl o fanwerthwyr hefyd - 96% o ostyngiad mewn bagiau untro ym mhlith manwerthwyr bwyd, siopau ffasiwn yn nodi gostyngiad o 75% a manwerthwyr nwyddau i harddu’r tŷ yn defnyddio 95% yn llai o fagiau. Roedd manwerthwyr gwasanaethau bwyd yn dweud eu bod yn defnyddio 45% yn llai o fagiau hefyd,  tra bo manwerthwyr telegyfathrebu wedi nodi gostyngiad o 85%.

Canlyniad llwyddiannus arall i’r polisi hwn yw’r ffaith bod manwerthwyr yn trosglwyddo’r elw o’r tâl am fagiau i brosiectau amgylcheddol ac elusennau lleol; ers mis Hydref mae’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus wedi cael dros £105,000 o roddion gan fanwerthwyr o ganlyniad uniongyrchol i’r tâl am fagiau siopa untro.

I ddathlu llwyddiant y tâl 5c, mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Morfa yn Sblot, Caerdydd i gwrdd â disgyblion, athrawon a phreswylwyr lleol sydd wedi bod yn cydweithio â Cadwch Gymru’n Daclus i greu pwll ac ardal bywyd gwyllt i’r gymuned fwynhau.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n falch iawn bod yr ymchwil ac ystadegau’r siopau’n cadarnhau’r hyn yr ydym wedi ei glywed gan siopwyr a manwerthwyr ers tro. Mae pobl Cymru wedi addasu’n eithriadol o dda i ddod i arfer â’r tâl am fagiau siopa untro ac mae’r mwyafrif bellach yn defnyddio eu bagiau eu hunain wrth siopa.

“Nid yn unig hynny, ond mae’r ymchwil yn awgrymu bod 70% o drigolion Cymru yn gwbl gefnogol i’r tâl erbyn hyn, ac yn cefnogi ein hamcanion ni i leihau sbwriel a newid ymddygiad pobl. Hoffwn ddiolch i fanwerthwyr a siopwyr am ein helpu ni i sicrhau llwyddiant y polisi hwn - y cyntaf o’r fath yn y DU.

“Wrth gwrs, mae’n bosibl y bydd pawb yn anghofio eu bag eu hunain ac yn gorfod talu 5c weithiau. Bydd yn gysur iddyn nhw wybod bod yr arian hwnnw’n cael ei drosglwyddo i elusennau fel Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gwneud gwelliannau amgylcheddol pwysig i gymunedau ar draws Cymru.

“Mae’r pwll bywyd gwyllt yr ydw i’n mynd i’w weld heddiw yn enghraifft wych o’r pleser a’r balchder y mae pobl o bob oedran yn ei gael o wella’r amgylchedd.”

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae llwyddiant y tâl am fagiau siopa untro yn newyddion da i amgylchedd Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd yn lleihau’r sbwriel a achosir gan fagiau.

“Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ddiolchgar iawn i’r manwerthwyr sy’n rhoi cyfran o’r tâl, neu’r elw i gyd, i achos da. Gyda’r arian hwn, gall Cadwch Gymru’n Daclus barhau i weithio gyda chymunedau i gyflawni prosiectau sy’n trawsnewid ardaloedd ac yn addysgu pobl am bwysigrwydd edrych ar ôl yr amgylchedd lleol.”

 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwerthuso'r modd y cyflwynwyd y tâl

Gwefannau

carrierbagchargewales

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 04 Gorffennaf 2012 Yr Amgylchedd Ailgylchu Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i