Adeiladwyd Cynllun Atal Llifogydd Glan yr Afon, gwerth £7m, diolch i £4.4m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a £2.6m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd yn amddiffyn 420 o gartrefi a busnesau yn ardal Glan yr Afon yng Nghasnewydd rhag llifogydd.
Datblygwyd y cynllun newydd, dan reolaeth Asiantaeth yr Amgylchedd, ar ôl gweld arwyddion o wendid yn amddiffynfeydd llifogydd blaenorol Glan yr Afon. Yn ôl y cynlluniau modelu, pe bai un o’r waliau a oedd mewn cyflwr arbennig o wael wedi methu, byddai 50% o gyfle i’r ardal ddioddef llifogydd yn flynyddol.
Cyn yr agoriad, dywedodd y Gweinidog:
"Rwy’n falch iawn o agor y cynllun hwn, a fydd yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd ac yn rhoi tawelwch meddwl i’r 420 o gartrefi a busnesau yn ardal Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
"Mae’n arbennig o arwyddocaol ein bod yn agor y cynllun heddiw gan ystyried y digwyddiadau diweddar yng ngorllewin Cymru. Cafodd pob un ohonom ein hatgoffa mor ddifrifol yw effaith llifogydd.
"Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd. Er nad oes modd i ni atal llifogydd yn llwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau Cymru yn wyneb y broblem hon.
"Mae cynllun Glan yr Afon yn rhan o raglen waith gwerth £100 miliwn gyda chefnogaeth bron i £50 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i helpu i amddiffyn cymunedau, fel yr un yma yng Nghasnewydd, a chymryd camau i reoli’r peryglon sy’n eu hwynebu."
Dywedodd Gareth O’Shea o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru:
"Hoffwn i ddiolch i’r bobl leol am eu cefnogaeth dros y deuddeg mis diwethaf wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen – mewn rhai achosion yn agos iawn at eu cartrefi a’u gerddi.
"Mae hwn yn gynllun pwysig i bobl sy’n byw dan fygythiad llifogydd yng Nglan yr Afon, a dyma’r ddolen olaf i amddiffyn glan ddwyreiniol Casnewydd rhag yr Afon Wysg.
"Does dim modd i ni atal llifogydd rhag digwydd bob tro, ond gallwn leihau’r risg. Bydd y cynllun hwn yn sicr yn lleihau’r risg i drigolion Casnewydd."
Yn gynharach eleni lansiodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o lifogydd, lleihau’r canlyniadau, gwella lefelau ymateb a blaenoriaethu buddsoddiad.
Cynlluniwyd amddiffynfa llifogydd Glan yr Afon i fod yn gadarn am flynyddoedd. Gellir codi’r waliau llifogydd yn uwch os oes angen, ac fe ddylai fedru gwrthsefyll peryglon newid hinsawdd am y 100 mlynedd nesaf.











