Mae’r ffigurau hyn yn golygu bod Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd ei tharged statudol o 52 y cant yn 2012-2013.
Gwelwyd cynnydd sylweddol mewn ailgylchu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r genedl yn mwynhau sawl carreg filltir gan gynnwys:
- yr unig wlad yn y DU i gyflwyno targedau ailgylchu statudol ar gyfer gwastraff trefol
- yr unig wlad yn y DU lle mae’r holl awdurdodau lleol yn cynnig casgliadau bwyd neu fwyd a gwastraff gwyrdd ar wahân
- y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno Cynllun Lwfansau Tirlenwi
- y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am fagiau siopa untro
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
“Rwy’n falch iawn bod pobl Cymru’n rheoli eu gwastraff mewn ffordd gynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd. Rwy’n llongyfarch awdurdodau lleol o bob cwr o Gymru ar eu gwaith pwysig yn sicrhau’r canlyniad ardderchog hwn.
“Un rheswm dros ein llwyddiant yw bod pob awdurdod lleol yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth casgliadau bwyd wythnosol. Yn ogystal â chadw cryn dipyn o wastraff allan o’r safleoedd tirlenwi, mae gwahanu’r gwastraff bwyd hefyd yn golygu ein bod yn llawer mwy ymwybodol o’r bwyd sy’n cael ei wastraffu, sy’n aml yn medru arwain at lai o wastraff a biliau bwyd is.
“Mae’n allweddol nawr i ni barhau i adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu er mwyn cyrraedd ein targedau heriol o ailgylchu 70% erbyn 2025 a dyfodol diwastraff erbyn 2050.
“Rwy’n obeithiol iawn y byddwn yn cyrraedd 50% yn ystod yr haf eleni.
“Mae ailgylchu yn gwneud mwy na chadw sbwriel allan o safleoedd tirlenwi a lleihau allyriadau carbon. Mae hefyd yn arbed ynni ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau gwerthfawr a fyddai fel arall yn pydru yn y ddaear.”
Mae lleihau gwastraff a lleihau’r swm o ddeunyddiau bioddiraddadwy sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi yn gamau allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu i wella bywyd o fewn cyfyngiadau amgylcheddol.











