Mae Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynllun Datblygu Gwledig i edrych ar y rhaglen newydd ar gyfer 2014-20.
Pwrpas y grŵp yw darparu cefnogaeth wrth i’r strwythur newydd godi a datblygu.
Bydd aelodau’r grŵp yn edrych ar y ffordd fwyaf effeithiol y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r Cynllun Datblygu Gwledig i amddiffyn yr amgylchedd, hyrwyddo a chefnogi cymunedau lleol a chryfhau busnesau gwledig a ffermio yng Nghymru.
Y nod yw sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant gwledig, drwy greu a chadw swyddi a chyfleoedd i bobl yng nghefn gwlad Cymru.
Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru fydd yn cadeirio’r grŵp, a daw’r aelodau o blith rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru wledig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Mae’n gyfnod cyffrous, llawn newid i gefn gwlad Cymru, ac rwy’n benderfynol o fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n codi yn sgil ffurfio’r Cynllun Datblygu Gwledig newydd.
"Rwy’n awyddus i ganolbwyntio ar feddwl yn fwy creadigol ac arloesol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu cynllun sy’n ateb anghenion busnesau a chymunedau ledled cefn gwlad Cymru.
"Rwy’n awyddus i edrych ar bob posibilrwydd ac opsiwn, ac adeiladu ar y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei gyflawni dan y cynllun cyfredol."
Mae aelodau’r grŵp fel a ganlyn:











