Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arwain mewn cyfnod o newid

Cryfhau economi Cymru wledig a buddsoddi mewn cymunedau gwledig yw’r ddwy flaenoriaeth fawr ar gyfer y dyfodol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth.
Dydd Iau 21 Mehefin 2012

Wrth siarad ym Mhwyllgor Cymreig Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, bu’r Dirprwy Weinidog, Alun Davies yn trafod prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfarfod yn y Trallwng, bu’n siarad gyda’r aelodau am ddiwygio’r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (PAC) a ffurfio Cynllun Datblygu Gwledig newydd ar gyfer 2014-2020.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Mae’r PAC yn hanfodol bwysig i ddyfodol ffermio yng Nghymru, yn buddsoddi dros £350m y flwyddyn yn niwydiant amaeth Cymru sy’n rhoi gwaith i filoedd o bobl. Rwy’n benderfynol o sicrhau bod y byd ffermio yng Nghymru’n mwynhau’r fargen orau bosib, a gweld y sector yn mynd o nerth i nerth.

"Rydw i’n fwy sicr nag erioed bod llais Cymru’n cael ei chlywed yn glir ledled yr Undeb Ewropeaidd. Rydw i wedi bod yn trafod yn ddwys i eithrio ffermwyr Glastir rhag yr argymhellion gwyrdd dan golofn 1 ac mae bellach yn gwbl glir bod hyn yn dwyn ffrwyth.

"Gallai argymhellion diweddaraf y Comisiwn olygu bod ffermwyr sy’n rhan o Elfen Cymru Gyfan Glastir yn gymwys ar unwaith i dderbyn y 30% o’u taliad uniongyrchol ar gyfer yr elfen werdd. Bydd y broses o drafod diwygio’r PAC yn un hir ond hanfodol – mae ffordd bell i fynd, ac fe fyddaf yn parhau i gymryd diddordeb manwl yn y drafodaeth ar bob lefel ac ar bob cyfle."

Gan siarad am y Cynllun Datblygu Gwledig newydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Yn ddiweddar sefydlais y Grŵp Cynllun Datblygu Gwledig i edrych ar y rhaglen newydd ar gyfer 2014-20. Prif ffocws y grŵp yw darparu cynllun sy’n cyflawni anghenion busnesau a chymunedau ledled Cymru wledig.

"Rydw i am edrych ar bob posibilrwydd, ac adeiladu ar y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei gyflawni dan y cynllun cyfredol. Y nod yw gwneud y gwaith gorau posib i greu cyfoeth a swyddi, sicrhau cynaliadwyedd gwledig a chryfhau cymunedau a’r byd ffermio."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Polisi Amaethyddol Cyffredin

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 21 Mehefin 2012 Diwygio'r PAC Ffermio a chefn gwlad Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i