Yn ystod oriau mân 13 Mehefin, cytunodd Gweinidogion Cyngor Pysgodfeydd yr UE ar gynigion cyffredinol i wahardd taflu pysgod marw, i ofalu bod pysgodfeydd yn sicrhau eu Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf a rhanbartholi’r broses rheoli pysgodfeydd.
Gan gynrychioli safbwyntiau pysgotwyr Cymru, roedd gan y Dirprwy Weinidog ran annatod i’w chwarae ar Gyngor Pysgodfeydd yr UE.
Croesawodd y garreg filltir hon yn yr her i greu pysgodfeydd cynaliadwy ledled Ewrop.
Y tri prif egwyddor y cytunwyd arnynt yw:
- Gofalu bod pysgodfeydd yn sicrhau eu Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf o ran rhai rhywogaethau erbyn 2015 a phob rhywogaeth erbyn 2020 fan hwyraf. Diffinnir y Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf fel uchafswm y pysgod y gellir eu dal heb effeithio ar allu’r stociau pysgod i ailgenhedlu gan felly sicrhau bod y stociau’n gynaliadwy.
- Gwahardd taflu pysgod marw. Mae’r Cyngor yn cytuno i wahardd taflu pysgod marw yn raddol. Bydd hyn yn dechrau yn 2014 ar gyfer stociau pelagig a chaiff yr arfer ei gyflwyno’n raddol ar gyfer stociau pysgod asgellog cymysg dros gyfnod o dair blynedd. Disgwylir i’r cyfnod hwn gychwyn yn 2015.
- Rhanbartholi. Llai o ficroreoli o Frwsel sy’n golygu rheoli pysgodfeydd yn fwy hyblyg.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Mae’r cytundeb a wnaed yr wythnos hon yn hwb mawr i’m hawydd i reoli’n pysgodfeydd ar lefel yr Aelod-Wladwriaethau. Golyga hyn y gall y CFP ymateb yn well i’n sefyllfa unigryw ni yng Nghymru, ac y gallwn ni elwa ar y manteision sydd ynghlwm â chydweithio’n agos ag Aelod-Wladwriaethau eraill.
"Rydw i wedi achub ar bob cyfle i gynrychioli Cymru yn Ewrop, a byddaf yn parhau i wneud hynny trwy gydol y broses hon. Mae’n amser cyffrous ym maes pysgodfeydd ac amaeth a byddaf yn parhau i lywio’r ffordd i sicrhau bod pysgotwyr Cymru’n cael y fargen orau."











