Grantiau ydyn nhw i annog grwpiau i weithio gyda chyrff a mudiadau eraill i ddod â buddiannau cynaliadwy i’w cymdogaethau. Mae arian yn cael ei roi i brosiectau mewn 15 awdurdod lleol.
Ymhlith y grwpiau fydd yn elwa:
- Mae £30,000 yn cael ei roi i Gyngor Cymuned Llanwnda yng Ngwynedd i wella hygyrchedd a diogelwch ar y llwybr rhwng Dyffryn Nantlle a Chyffordd Tryfan.
- Bydd Cyngor Cymuned Llanfynydd yn Sir Gâr yn derbyn £4,070 i droi tir segur yn berllan gymunedol.
- Bydd ardal Cymunedau’n Gyntaf Craig y Rhaca yng Nghaerffili yn cael dros £22,000 i weddnewid darn o dir sydd wedi’i anharddu gan dipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhandir cymunedol.
Wrth sôn am y grantiau, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
“Mae’n bleser cael cyhoeddi nawdd ar gyfer gwella’r amgylchedd lleol i bobl ar hyd a lled y wlad. Dyma enghraifft arall o’m hymrwymiad i wella’r amgylchedd lleol i bobl sy’n byw yn ninasoedd, trefi a phentrefi Cymru.”
Gwahoddwyd pedwar cant o gyrff a mudiadau i fidio am arian 2012-13 a daeth 169 o geisiadau i law. Cafodd yr ymgeiswyr eu hasesu gan banel annibynnol.
Mae’r cynllun Trefi Taclus, i ddatblygu pecyn integredig ar gyfer gwella’r amgylchedd lleol, yn rhan o’r Rhaglen Lywodraethu.











