Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn lansio cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd gwerth £13m yn y Borth

Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi lansio cynllun amddiffyn rhag llifogydd yn y Borth, Ceredigion fydd yn amddiffyn 420 o dai a busnesau a Lein Arfordir y Cambrian rhag llifogydd. Mae’r cynllun newydd wedi defnyddio creigiau rîff i amddiffyn yr ardal yn well gan roi hwb i’r gyrchfan hon sydd eisoes yn boblogaidd iawn gyda syrffwyr.
Dydd Iau 08 Mawrth 2012
Y Gweinidog yn lansio cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd gwerth £13m yn y Borth

Gan fod pentref y Borth ar lan y môr, mae iddo hanes o lifogydd arfordirol a gallai storm drom gael effeithiau dinistriol ar y pentref a’i hanes cyfoethog.

Roedd y gwaith adeiladu’n cynnwys adeiladu amddiffynfeydd newydd yn lle’r hen amddiffynfeydd pren, adeiladu amddiffynfa/rîff i syrffwyr, adeiladu dau forglawdd a dau argor a mewnforio miloedd o dunelli o gerrig mân a’i ychwanegu at argloddiau o gerrig mân naturiol.

Mae’r cynllun wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (£7.5m), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (£5.49m) a Chyngor Sir Ceredigion (£0.16m).

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r cynllun amddiffyn rhag llifogydd hwn wedi rhoi cyfle i ni wella amgylchedd ac amwynderau’r ardal.  Trwy addasu’r rîff i wella’r amodau syrffio, mae’r cynllun wedi rhoi hwb gwirioneddol i’r diwydiant twristiaeth ac i’r economi leol hefyd.  Bydd hyn o ddiddordeb arbennig i’r syrffwyr brwd sy’n ymweld â’r Borth bob blwyddyn.

“Yn ogystal â lleihau’r risg o lifogydd yn yr ardal a chefnogi safleoedd twristiaeth lleol, bydd y cynllun hwn o fudd i gymuned y Borth hefyd.  Mae’n dysgu’r gymuned am beryglon llifogydd ac am y camau syml y gall pobl eu cymryd i wneud yn sicr bod eu cartrefi’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.  Mae’r preswylwyr wedi cael eu hannog i gofrestru gyda gwasanaeth Llinell Rybuddion Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd.  Ni allwn roi stop ar lifogydd ac mae’n rhaid i gymunedau arfordirol barhau i fod yn wyliadwrus gan ei bod yn debygol y byddwn yn gweld mwy o lifogydd yn y dyfodol.

“Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw lleihau canlyniadau llifogydd, codi ymwybyddiaeth o lifogydd ac ymateb yn effeithiol i lifogydd a blaenoriaethu’n buddsoddiadau.

“Mae’r Borth yn enghraifft wych o ardal lle rydym wedi blaenoriaethu’n buddsoddiad er mwyn lleihau’r risg i gymunedau bregus.”

Mae buddsoddi mewn rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol ar draws Cymru yn elfen bwysig o’r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer creu lleoedd cynaliadwy i bobl Cymru fyw ynddynt.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llifogydd ac erydu arfordirol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 08 Mawrth 2012 Newid yn yr hinsawdd Amddiffyn rhag llifogydd Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i