Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru yn agored i lifogydd afonydd, y môr a dŵr arwyneb. Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru nawr yn llunio ei strategaeth ei hun, ar sail y strategaeth genedlaethol.
Mae’r Strategaeth Genedlaethol yn pennu pedwar amcan ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru:
- Lliniaru ar ganlyniadau llifogydd ac erydu arfordirol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd
- Codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydu arfordirol ac annog pobl i ymateb i’r broblem
- Cynnig ymateb effeithiol a chyson i lifogydd ac achosion o erydu arfordirol
- Rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.
Er mwyn lansio’r Strategaeth Genedlaethol, ymwelodd y Gweinidog â Borth, Ceredigion, lle mae amddiffynfa arfordirol rhag llifogydd yn cael ei chodi i warchod 422 o gartrefi a busnesau. Disgwylir i’r prosiect £12m gael ei gwblhau yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i gyflawni’r amcanion hyn fel rhan o’i Rhaglen Lywodraethu, gan addo creu llefydd cynaliadwy i bobl fyw a gweithio ynddyn nhw.
“Mae eu gweithredu nhw yn gyfrifoldeb ar bawb sy’n gysylltiedig â’r gwaith o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol neu y mae’r mater yn effeithio arnyn nhw, o Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Rheoli Risg Cymru a phobl Cymru eu hunain. I ategu’r peth, fe fyddaf i’n newid y ffordd rydyn ni’n cyllido gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac fe awn ni ati yn 2012 i ymgynghori ar y newidiadau hyn.
“Er bod lansio’r Strategaeth Genedlaethol yma yn garreg filltir bwysig wrth reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, nid dyma ddiwedd y daith.
“Yn ôl y rhagolygon, wrth i’n hinsawdd newid, fe fydd lefel y môr yn codi, bydd mwy o law yn disgyn ac mae llifogydd amlach yn anochel. Yn sgil y llifogydd, bydd mwy o beryl i fywyd, yr economi a’r amgylchedd. Yn ogystal â hyn, bydd mwy o erydu arfordirol, a bydd mwy o gymunedau arfordirol yn wynebu colli tir, eiddo ac adnoddau.
“Er na allwn ni atal llifogydd nac erydu arfordirol ym mhob man, mae yna gamau y gallwn ni eu cymryd i reoli’r peryglon a lleihau’r canlyniadau. Wrth ystyried rheoli perygl, mae angen inni feddwl am bob agwedd. Mae angen ystyried amddiffyn yn ogystal â mesurau eraill i helpu cymunedau a’r amgylchedd ehangach.
“Bwriad yr amcanion yn y Strategaeth Genedlaethol yw sicrhau ein bod ni’n datblygu system rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n gweddu i Gymru ac sy’n ddigon hyblyg i ymaddasu yn y dyfodol.”
Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru:
“Rydyn ni’n croesawu’r strategaeth hollbwysig hon a fydd yn rhoi lle canolog i lifogydd ac erydu arfordirol o ran sut mae cymunedau a busnesau yn ymbaratoi ar gyfer y dyfodol.
“O bell ffordd, yr her amgylcheddol fwyaf rydyn ni’n ei hwynebu heddiw yw’r newid yn yr hinsawdd. Mae’n debygol o achosi tywydd mwy eithafol ac i lefel y môr godi, gan gynyddu risg llifogydd i bob un ohonon ni.
“O’r 357,000 o eiddo yng Nghymru sy’n wynebu perygl llifogydd, mae 234,000 o’r rhain yn agored i lifogydd arwyneb dŵr ac mae llawer hefyd yn agored i lifogydd afonydd neu’r môr. Mae dŵr arwyneb yn gorlifo pan na fydd systemau draenio a chwlfertau yn gallu ymdopi â glaw trwm iawn, rhywbeth sy’n digwydd yn amlach ac yn amlach.
“Fe fydd y strategaeth hon yn defnyddio ein harbenigedd o ran llifogydd i wneud mwy i helpu awdurdodau lleol a’r cwmnïau dŵr yn eu gwaith i fynd i’r afael â phroblem llifogydd arwyneb dŵr a lleihau’r perygl i gymunedau yng Nghymru.”
Fe fydd natur perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a sut mae’n newid yn cael ei adolygu’n rheolaidd, a’r Strategaeth Genedlaethol ei hun yn cael ei hadolygu yn 2016.











