Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Dirprwy Weinidog yn talu teyrnged i'r diwydiant cig coch

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, Alun Davies, wedi talu teyrnged i gyfraniad y diwydiant cig coch at economi Cymru.
Dydd Gwener 11 Tachwedd 2011

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, Alun Davies, wedi talu teyrnged i gyfraniad y diwydiant cig coch at economi Cymru. 

Yng nghynhadledd flynyddol Hybu Cig Cymru (HCC), dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Mae gyda ni gynhyrchwyr a phroseswyr o safon fyd-eang yma yng Nghymru ac mae'r diwydiant yn gwneud cyfraniad mawr at economi Cymru. Mae mwy na 33,000 o bobl yn gweithio yn y sector cig coch yn unig. Mae prisiau wrth gât y fferm yn werth mwy na hanner biliwn o bunnoedd i'r economi bob blwyddyn, sef 40% o gynnyrch amaethyddol.

"Mae brandiau Cig Oen a Chig Eidion Cymru wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ledled y byd. Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond mewn ychydig o farchnadoedd Ewrop yr oedd Cig Oen Cymru yn cael ei werthu. Heddiw, mae ar gael nid yn unig ledled y rhan fwyaf o Ewrop, ond hefyd yn y Dwyrain Canol a Phell. Mae ffermwyr wedi gweithio'n galed i dyfu rhagor o gnydau a chynhyrchu darnau o gig sydd â llai o fraster ac sy'n addas i wahanol farchnadoedd ledled y byd. Mae Hybu Cig Cymru wedi gweithio'n galed i ddod o hyd i farchnadoedd newydd a helpu i'w datblygu ac mae wedi llwyddo i wneud hynny. Mae gyda ni lawer i ymfalchïo ynddo, a gallwn ni ymfalchïo yn benodol yn ein bwyd a'n ffermydd.”

Croesawodd y Dirprwy Weinidog hefyd benodiad Panel y Sector Bwyd a Ffermio gan y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, a mynegodd ei fod yn gobeithio y bydd Cadeirydd HCC, Dai Davies, sy'n aelod o'r panel, yn sicrhau bod modd rhannu arfer da gyda sectorau eraill yn y diwydiant ffermio. Ychwanegodd:

"Dw i'n croesawu'r panel cynghori newydd, dan gadeiryddiaeth Dr Haydn E Edwards, a fydd yn rhoi cyngor arbenigol i ni ar flaenoriaethau'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod, a dw i'n siŵr y bydd Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies, sy'n aelod o'r panel, yn helpu i sicrhau bod amrywiaeth o wybodaeth arbenigol yn cael ei rhannu.

"Dw i'n benderfynol o annog sectorau eraill diwydiant bwyd Cymru i ddilyn esiampl Hybu Cig Cymru er mwyn gwella'u cynhyrchion a'u cadwyni cyflenwi fel bod modd iddyn nhw fwynhau'r un llwyddiant. Mae'r sector Bwyd a Ffermio yn bwysig i'n heconomi ac yn gwneud cyfraniad mawr i iechyd a lles y wlad. Gyda'n gilydd, dw i'n siŵr y gallwn ni sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r diwydiant."

 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ffermio a chefn gwlad Bwyd a physgodfeydd

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 11 Tachwedd 2011 Ffermio a chefn gwlad Bwyd lleol Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i