Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn penodi Grŵp Cynghori Strategol newydd ar Fwyd a Diod

Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, wedi penodi aelodau’r Grŵp Cynghori Strategol newydd ar Fwyd a Diod sydd wedi cymryd lle Grŵp Cynghori’r Bartneriaeth Bwyd-Amaeth. Gwnaeth y grŵp newydd gyfarfod am y tro cyntaf heddiw [ddydd Gwener, 12 Rhagfyr] i drafod y ffordd orau o helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i wynebu sialensau heddiw ac yfory.
Dydd Gwener 12 Rhagfyr 2008

Meddai’r Gweinidog:

Bydd y grŵp yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu diwydiant bwyd a diod cryf a chadarn yng Nghymru. Bydd yn cryfhau’r ddolen rhwng polisi a strategaeth yn y llywodraeth ac yn adlewyrchu’r berthynas weithio rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r diwydiant bwyd a diod, er mwyn i ni wynebu sialensau’r dyfodol yn llwyddiannus gyda’n gilydd.

I ddechrau, bydd yr aelodau’n gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd fan bellaf. Dyma nhw:

  • Dr Nic Lampkin
  • Mr Jeremy Percy
  • Mr Roger Hughes
  • Dr Mark Simkin
  • Mr Terrig Morgan
  • Mrs Alison Lea-Wilson
  • Prof Peter Midmore
  • Mr David Lloyd
  • Ms Katie Palmer
  • Mrs Kate Morgan
  • Mr Richard Parry Hughes
  • Mrs Jo Hughes
  • Dr Shyam Patiar
  • Mr Philip Stocker
  • Mrs Jennifer Davis
  • Mr Huw Rees
  • Mr Gwyn Angell Jones
  • Bydd Mr Rees Roberts, Cadeirydd Bwrdd Hybu Cig Cymru, yn cynrychioli sector cig coch Cymru.

Bydd y grŵp yn adeiladu ar waith Grŵp Cynghori’r Bartneriaeth Bwyd-Amaeth. Ers 1999, bu grŵp y Bartneriaeth hon yn rhoi arweiniad a chymorth i Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) a Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu a rhoi ar waith wasanaethau cymorth ar gyfer ein diwydiant bwyd a diod. Bydd y grŵp cynghori newydd yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu Strategaeth Bwyd a Diod o Gymru, ac yn rhoi cyngor i Lywodraeth y Cynulliad ar gefnogi’r diwydiant bwyd a diod.

Mae grwpiau strategol o’r sectorau llaeth, pysgod a dyframaethu, a garddwriaeth, ynghyd â grŵp o’r Sector Organig a Grŵp Datblygu Masnach, i gyd yn cefnogi gwaith y bartneriaeth. Bydd bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynrychioli sector cig coch Cymru. Mae yna bedair partneriaeth ranbarthol sydd yn dod ag amryw o gyrff o’r sectorau cyhoeddus a phreifat at ei gilydd. Gan fod y rhain yn darparu’n lleol byddan nhw’n sicrhau bod y gwaith yn gydgysylltiedig a bod y prosiectau’n diwallu anghenion lleol a rhanbarthol.

Er nad yw’r penodiadau i’r Grŵp Cynghori Strategol ar Fwyd a Diod o fewn cylch gwaith y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, roedd y broses benodi’n cydnabod mai Cod Ymarfer y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus yw’r arfer gorau i’w ddilyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi’r cyllid angenrheidiol ar gyfer gwaith gweinyddol ac ysgrifenyddol y grŵp ac i gynorthwyo’i waith.

12 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bwyd a physgodfeydd

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 12 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i