Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dros 80 y cant o ffermwyr yn cael eu taliad ar y diwrnod cyntaf

Bydd dros 80 y cant o ffermwyr Cymru yn cael eu Taliad Sengl heddiw [Dydd Llun, 1 Rhagfyr], ar y diwrnod cyntaf y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn caniatáu’r taliadau. Dyna a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones.
Dydd Llun 01 Rhagfyr 2008

Mae manylion 82.5 y cant o ffermwyr wedi cael eu prosesu yn barod ar gyfer diwrnod cyntaf y cynllun, a bydd £183m yn cael eu talu i gyfrifon banc y ffermwyr. Mae hyn yn uwch na’r 75 y cant a broseswyd y llynedd.

Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, Llanelwedd, dywedodd Elin Jones:

Rwy’n falch i gael y newyddion da hyn heddiw. Rydym eisoes wedi talu mwy o ffermwyr nag a dalwyd erbyn y Nadolig y llynedd. Eleni, rwy’n disgwyl y bydd dros 85 y cant o’n ffermwyr ni wedi cael eu taliadau erbyn y Nadolig.

Mae’n bwysig i bob busnes allu cynllunio ymlaen llaw, ac mae hynny’n wir am ffermio hefyd. Mae’n gymorth mawr bod cynifer o ffermwyr yn gallu cael eu Taliad Sengl erbyn y Nadolig, yn enwedig ar adeg fel hon.

Mae hyn yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad staff Taliadau Gwledig Cymru i helpu ffermwyr yn y cyfnod economaidd anodd hwn.

Newyddion da arall yw y bydd y rhan fwyaf o deuluoedd ffermio Cymru yn cael hwb bach i’w hincwm eleni, gan y bydd y rhai sy’n cael y taliad sengl mewn sterling yn cael cynnydd o 10.6 y cant, net ar ôl modiwleiddio, am yr un hawliau, o ganlyniad i’r gwahaniaeth yn y gyfradd gyfnewid.

1 Rhagfyr 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 01 Rhagfyr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i