Mae’r achosion o greulondeb i anifeiliaid ac o anifeiliaid yn cael eu gadael yn dal i gynyddu. Mae hyn yn awgrymu nad yw pob darpar berchennog l wedi ystyried yn ofalus y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â gofalu am anifail.
Yn ôl ffigurau diweddar gan yr RSPCA, cynyddodd ymchwiliadau i greulondeb yng Nghymru a Lloegr o 105,000 yn 2003 i ychydig o dan 140,000 yn 2007. Mae elusennau eraill sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, fel yr Ymddiriedolaeth Gŵn, hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid y mae’n rhaid iddynt ofalu amdanynt.
Mae’r Codau Ymarfer ar gyfer Cŵn, Cathod a Cheffylau (sy’n cynnwys ceffylau ac asynnod) wedi cael cefnogaeth pob plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol. Fe’u lluniwyd yn sgil ymgynghori helaeth ac mae grwpiau lles anifeiliaid wedi’u croesawu. Maent yn rhoi arweiniad ymarferol i bobl sy’n berchen ar gi, cath, neu geffyl, neu sy’n ystyried cael un.
Wrth lansio’r Codau yn Fferm Gymunedol Greenmeadow, meddai’r Gweinidog dros Faterion Gwledig Elin Jones:
Efallai y bydd rhai’n gofyn pam mae angen canllawiau ar les anifeiliaid anwes. Er y bydd llawer o bobl yn gofalu am eu hanifail anwes ac yn rhoi cartref diogel iddo gydol ei oes, y gwir cas yw bod gormod o lawer o anifeiliaid yn cael eu trin yn greulon ac yn cael eu gadael. Mae’r ffigurau ar greulondeb yn dal i gynyddu a does dim ond angen sylwi ar yr adroddiadau yn y cyfryngau i sylweddoli bod hon yn broblem go iawn. Mae awdurdodau lleol hefyd yn wynebu costau wrth erlyn achosion o greulondeb yn y llysoedd, a byddai modd defnyddio’r arian hwn ar gyfer pethau eraill.
Mae cael anifail anwes yn gyfrifoldeb mawr. Mae’n golygu costau, er enghraifft costau bwydo a ffioedd y milfeddyg, yn ogystal â’r amser sydd ei angen i ofalu amdanynt yn iawn. Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r hyn sy’n ddisgwyliedig os oes rhywun yn ystyried cael anifail anwes.
A hithau’n adeg y Nadolig, gall rhai rhieni deimlo dan bwysau i brynu anifail anwes ar gyfer eu plant heb sylweddoli o bosibl yr ymrwymiad ariannol dros gyfnod hir sydd ynghlwm wrth y penderfyniad hwn. Byddwn yn pwyso ar unrhyw un sy’n ystyried cael anifail anwes i fwrw golwg dros y canllawiau hyn a barnu’n onest a allan nhw gynnig y gofal y mae ei angen ar anifail.
Meddai’r Prif Swyddog Milfeddygol, y Dr Christianne Glossop:
Mae cadw anifail anwes yn fraint yn hytrach na hawl, mae angen llawer o ofal arnynt ac mae'n wir nad yw pawb yn sylweddoli gymaint o ymrwymiad sydd ei angen pan yn cael anifail anwes. Nod y canllawiau hyn yw bod yn esboniad pendant o beth sydd angen ei ystyried cyn cael anifail anwes.
Meddai Ysgrifennydd y Kennel Club, Caroline Kisko:
Mae’r Kennel Club wedi bod yn gysylltiedig â’r gwaith o lunio’r codau hyn ac rydym yn credu eu bod, at ei gilydd, yn gam ymlaen yn y maes hwn. Rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cynulliad Cymru, a hynny am mai hi yw’r weinyddiaeth gyntaf yn y DU i weithredu’r codau hyn. Gobeithio y bydd y cam hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth i berchnogion o’u dyletswydd i ofalu am anifeiliaid anwes o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Meddai Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Gŵn, Clarrisa Baldwin OBE:
Mae’r Ymddiriedolaeth Gŵn yn croesawu’r ffaith y bydd y Cod Ymarfer ar gyfer cŵn yn cael ei roi ar waith. Mae unrhyw beth y mae modd ei wneud i wella gwybodaeth y cyhoedd am sut i ofalu am gŵn yn bwysig dros ben gan fod llawer o’r problemau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid yr ydym yn dod ar eu traws yn deillio o anwybodaeth yn hytrach nag esgeulustod bwriadol. Bydd yr Ymddiriedolaeth Gŵn yn defnyddio’r Codau i helpu i roi cyngor i bobl sy’n mabwysiadu cŵn o’n Canolfan ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar sut i gynnig gofal da i’w cŵn.
Meddai’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Milfeddygol yn Cats Protection, Maggie Roberts:
Mae Cats Protection yn falch dros ben bod Cymru arwain y ffordd trwy lunio Cod Ymarfer ar gyfer Lles Cathod. Mae’n gam ymlaen yn y gwaith o sicrhau bod anghenion corfforol ac emosiynol cathod yn cael eu diwallu.
Meddai Prif Weithredwr World Horse Welfare, Roly Owers:
Mae World Horse Welfare yn croesawu Cod Ymarfer newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Lles Ceffylau. Mae’r Cod yn elfen hollbwysig o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 gan ei fod yn pennu llinell sylfaenol ar gyfer diwallu anghenion pob ceffyl. Mae’n cynnig cyngor defnyddiol i berchnogion a darpar berchnogion ceffylau, yn ogystal â bod yn gefn i’r awdurdodau os bydd problemau. Mae’n galonogol bod Cymru wedi achub y blaen wrth ddatblygu’r Cod hwn. Gobeithio y bydd yn gaffaeliad gwerthfawr i’r gwaith o ddiogelu lles ceffylau.
3 Rhagfyr 2008











