Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y diweddaraf am y rhaglen i ddileu TB

Ym mis Hydref, cafodd rhaglen gynhwysfawr Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddileu TB yng Nghymru ddau hwb pwysig.
Dydd Mawrth 04 Tachwedd 2008

Dechreuwyd profi am TB ar ffermydd ar draws Cymru ar 1 Hydref 2008 fel rhan o Archwiliad Iechyd TB Cymru a chytunodd y Cynulliad Cenedlaethol ar bwerau mynediad newydd ar 21 Hydref 2008 i atgyfnerthu’r pwerau oedd eisoes ar gael i fynd i mewn i safle i brofi am TB, ac fel bod modd cynnal y profion ar yr adegau priodol.

Yn ôl y Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

Nod Archwiliad Iechyd TB Cymru yw rhoi dechrau da i Gymru yn yr ymgyrch i ddileu’r afiechyd drwy brofi pob buches a thrwy gyflawni pob prawf hwyr. Mae nifer y buchesi sy’n cael eu profi ym mhob rhan o Gymru bellach yn cynyddu’n sylweddol bob dydd.

Caiff y gyfres gyntaf o ddata perfformiad ystadegol gan Archwiliad Iechyd TB Cymru ei ryddhau ddechrau Rhagfyr. Rydyn ni’n disgwyl i’r data ddangos ein bod ar y trywydd iawn i gwrdd â’n targedau ar gyfer misoedd cynnar y rhaglen brofi newydd ac ar gyfer cwblhau profion hwyr. Mae canfod buchesi y mae’r profion arnynt yn hwyr a delio â nhw yn effeithiol, yn rhan allweddol o Archwiliad Iechyd TB Cymru.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal profion ar fuchesi hwyr a dal i fyny â nhw yn gyson, ac mae adnoddau ychwanegol wedi eu darparu i Iechyd Anifeiliaid i wneud hyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dod a thri grŵp o Arolygwyr Milfeddygol at ei gilydd o bob rhan o Gymru ac wedi ffurfio tri Bwrdd y Rhaglen Dileu TB rhanbarthol i weithredu camau Archwiliad Iechyd TB Cymru yn lleol.

4 Tachwedd 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 04 Tachwedd 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i