Mae anifeiliaid byw yn dechrau cael eu hallforio ar draws y DU, ac eithrio yn yr ardal lle cafwyd achosion o'r clefyd yn Surrey. Bydd modd allforio anifeiliaid byw o ardal Surrey o 1 Ionawr ymlaen.
Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig:
Mae penderfyniad y Comisiwn i godi'r gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw yn newyddion da. Nid wyf yn tanbrisio am eiliad yr effaith y mae'r achosion wedi'i chael ar ffermwyr yng Nghymru, yn enwedig y sector defaid. Ond rwy'n gobeithio y bydd y newyddion positif hyn cyn y Nadolig yn lleddfu rhywfaint ar eu pryderon.
Bu'r flwyddyn hon yn un anodd a heriol iawn i'r diwydiant. Nawr bod y cyfyngiad olaf ar Gymru yn sgil yr achosion o Glwy'r Traed a'r Genau wedi’i godi, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd edrych ymlaen at 2008.
13 Rhagfyr 2007











