Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Myfyrwyr Cymru yn dathlu canlyniadau Bagloriaeth Cymru a Safon Uwch

Heddiw, mae’r myfyrwyr hynny sy’n dathlu eu llwyddiant yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru, ac arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol wedi cael canmoliaeth gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg.
Dydd Iau 16 Awst 2012

Wrth ymuno â myfyrwyr a oedd yn cael eu canlyniadau yn Ysgol Gyfun Caerllion yng Nghasnewydd, dywedodd Leighton Andrews:

“Mae’r bobl ifanc yma yn Ysgol Gyfun Caerllion, fel eraill ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig, yn haeddu dathlu eu canlyniadau heddiw.

“Maen nhw wedi gweithio’n galed ac maen nhw’n haeddu pob clod am eu llwyddiant.  Dylid canmol rhieni ac athrawon hefyd am y cymorth y maen nhw wedi’i roi i’n bobl ifanc ar hyd y daith.

“Mae’n galonogol hefyd bod ein cymhwyster blaenllaw, Bagloriaeth Cymru, yn dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i fwy a mwy o bobl ifanc gydnabod y gwerth ychwanegol y mae’n ei roi iddyn nhw pan fyddan nhw’n gwneud cais am le mewn Prifysgol neu’n ymgeisio am swydd, oherwydd mae’n datblygu’r sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar brifysgolion a chyflogwyr.”

Cafodd 8,259 o fyfyrwyr Ddiploma Uwch Bagloriaeth Cymru eleni, sef cynnydd o 1,311 (18.8%) o gymharu â’r llynedd.  

Mae gan y myfyrwyr hynny sydd wedi llwyddo i gael Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gymhwyster gwerth chweil ar gyfer gwneud cais am brifysgolion lle mae’n cael ei dderbyn yn eang fel cymhwyster mynediad ar gyfer cyrsiau gradd.  Mae Bagloriaeth Cymru yn ychwanegol at y cymhwyster Safon Uwch a chymwysterau uwch eraill y maen nhw’n eu gwneud fel rhan o’u rhaglenni dysgu.

Mae canlyniadau Bagloriaeth Cymru heddiw yn dangos:

  • bod bron 10,000 o ddysgwyr (9,978) wedi cwblhau rhaglenni Safon Uwch Bagloriaeth Cymru eleni;
  • bod 8,747 o ddysgwyr wedi ennill Tystysgrif Graidd Safon Uwch Bagloriaeth Cymru; a
  • bod 8,259 o ddysgwyr wedi ennill y Dystysgrif Graidd yn ogystal â’r gofynion opsiynol, a dyfarnwyd iddyn nhw felly Ddiploma Uwch Bagloriaeth Cymru yn llawn.

Mae’r canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos, yn achos myfyrwyr Cymru:

  • bod 97.6% o’r cynigion Safon Uwch wedi llwyddo
  • bod 75% o’r cynigion Safon Uwch wedi llwyddo i ennill Gradd C neu uwch
  • bod 86.4% o’r cynigion AS wedi llwyddo.

Aeth y Gweinidog Addysg rhagddo i ddweud:

“Mae’n gadarnhaol gweld y gwelliannau pellach sydd wedi cael eu gwneud yn y cyfraddau llwyddo Safon Uwch eleni, a bod cyfran gynyddol yn ennill gradd C neu uwch.

“Mae’r cymhwyster Safon Uwch yn dal i fod yn gymhwyster y mae parch mawr iddo ledled y Deyrnas Unedig a rhaid wrth waith caled ac ymroddiad i lwyddo ynddo.  Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr hynny sy’n dathlu eu llwyddiant haeddiannol, a dw i am ddymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol beth bynnag yw eu dewis, boed waith neu addysg uwch.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cymorth ariannol i fyfyrwyr Ydych chi’n ystyried mynd i brifysgol yn 2012/13? Canllaw cyflym

Gwefannau

Gyrfa Cymru Cyllid Myfyrwyr Cymru

Tagiau

Addysg a sgiliau 16 Awst 2012 Addysg dros 16 ac addysg barhaus Prifysgolion a cholegau Welsh baccalaureate Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i