Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mae 10 munud fach yn gwneud gwahaniaeth – gwnewch amser i ddarllen dros wyliau’r haf

Gall darllen gyda phlentyn am ddim mwy na 10 munud y diwrnod wneud gwahaniaeth aruthrol – dyna neges ymgyrch ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yr haf yma.
Dydd Llun 13 Awst 2012

Mae ymgyrch ‘Rho amser i ddarllen’, a gaiff ei darlledu ar Real Radio o’r 6ed o Awst am ddwy wythnos, yn annog rhieni a gofalwyr i dreulio amser yn darllen gyda’u plant.

Mae’r ymgyrch yn pwysleisio mai mwynhau yw pwrpas darllen ac na ddylai fod yn gyfyngedig i lyfrau yn unig. Mae’r we, ryseitiau, cylchgronau, comics a phapurau newydd i gyd yn cyfrif.

Fel rhan o’r ymgyrch radio, bydd DJs yn trafod eu hoff lyfrau ac yn sôn am fanteision darllen. Bydd gwefan ddwyieithog yn cefnogi’r ymgyrch, gyda chynghorion bach am sut i ddarllen gyda phlentyn.

Daw’r ymgyrch wrth i lyfrgelloedd ledled Cymru lansio Her Ddarllen Haf eleni, sy’n ysbrydoli miloedd o deuluoedd ledled Cymru i gymryd rhan yn nigwyddiad darllen mwyaf y DU i blant mewn llyfrgelloedd.

Caiff plant 4-12 oed eu hannog i ddarllen chwech neu fwy o lyfrau o’u dewis nhw yn ystod gwyliau’r haf yn gyfnewid am wobrau – yn ogystal â thystysgrif neu fedal i bob plentyn sy’n cyflawni’r her. 

Mae’r her yn targedu plant o bob gallu darllen ac yn cynnwys llyfrau ffeithiol, storïau, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau, llyfrau sain ac e-lyfrau.
Wrth groesawu’r ymgyrch a Her Ddarllen yr Haf, dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg:

“Ym mis Mai, fe lansiais ein Rhaglen Lythrennedd Genedlaethol sy’n disgrifio’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn codi safonau llythrennedd yn ein hysgolion.

“Mae gwyliau’r haf yn gyfle perffaith i blant ddarganfod llenyddiaeth o bob math, yn llyfrau, yn wefannau, yn gomics neu’n gylchgronau.

“Mae gan lyfrgelloedd rôl bwysig dros ben i’w chwarae, ac felly dwi am annog cymaint o blant â phosibl i ymweld â’u llyfrgelloedd a cheisio cyflawni Her Ddarllen yr Haf.

"Gall rhieni, gofalwyr ac aelodau o’r teulu i gyd chwarae eu rhan drwy ofalu bod plant yn parhau i ddatblygu arferion darllen da y tu allan i’r ysgol. Bydd gwrando ar blentyn yn darllen am gyn lleied â 10 munud y dydd neu siarad â nhw am eu hoff lyfrau, straeon a chymeriadau yn gwneud gwahaniaeth mawr."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Rho amser i ddarllen

Tagiau

Addysg a sgiliau 13 Awst 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i