Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidogion yn galw am fwy o gyfathrebu cyn gwneud cyhoeddiadau am bolisïau ar gymwysterau

Heddiw, mae Gweinidog Addysg a Sgiliau Cymru, Leighton Andrews AC, a Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon, John O’Dowd MLA wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Michael Gove AS, i godi eu pryderon am y diffyg rhybudd sy’n cael ei roi cyn cyhoeddi polisïau ar gymwysterau.
Dydd Mercher 01 Awst 2012
Cafodd y llythyr ei anfon yn sgil nifer o gyhoeddiadau a wnaed heb rybudd digonol gan Mr Gove a chyfarfod rhwng Mr Andrews a Mr O’Dowd, ym mis Gorffennaf. Mae’r Gweinidogion yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod cyfathrebu cyson yn digwydd cyn gwneud cyhoeddiadau am gymwysterau sydd dan ofal mwy nag un Gweinidog. Byddai hynny’n helpu i osgoi unrhyw ddryswch a phryder i’r rheini y mae newidiadau mewn polisi yn effeithio arnynt, trwy sicrhau nad yw’r negeseuon sy’n dod o’r tair gweinyddiaeth yn rhai cymysg.
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 01 Awst 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i