Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Adolygiad newydd ar y cyd i edrych ar ehangu mynediad i’r celfyddydau ym myd addysg

Cafodd adolygiad ar y cyd o’r ffordd y mae’r sectorau celf ac addysg yn cydweithio yng Nghymru, gan gynnwys pob math o gymorth ar gyfer y celfyddydau mewn ysgolion, ei gyhoeddi gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.
Dydd Iau 05 Gorffennaf 2012

Caiff grŵp gorchwyl a gorffen ei sefydlu i ddatblygu gwaith yr adolygiad. o dan gadeiryddiaeth yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.  

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar wella safonau ac amrywiaeth y celfyddydau mewn ysgolion.  Bydd aelodau’r grŵp yn edrych ar yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud i annog pobl ifanc i gyfranogi yn y celfyddydau, sut mae’r sector celf yn cysylltu ag ysgolion a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr – yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig.  

Bydd yr adolygiad hefyd yn nodi arfer gorau a’r rhwystrau i arfer gorau, gan wneud argymhellion ynghylch sut y gallai sefydliadau celf helpu ysgolion i ddatblygu sgiliau creadigol.  

Wrth gyhoeddi’r adolygiad heddiw, dywedodd Leighton Andrews y Gweinidog Addysg:

“Mae angen inni wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc - yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig - yn dod i gysylltiad â’r celfyddydau ac yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau creadigol.  

“Mae’n hanfodol ein bod yn nodi ac yn meithrin arferion da ac yn edrych ar sut y gellir defnyddio’r celfyddydau yn y dull mwyaf effeithiol mewn ysgolion – er enghraifft, i gynorthwyo gyda dysgu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig llythrennedd, ac i ddatblygu lles emosiynol ac addysgu dysgwyr am faterion cymdeithasol.  

“Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhoi darlun llawer cliriach inni o sut y mae ysgolion a sefydliadau celfyddydol yn rhyngweithio â’i gilydd, a’r hyn sydd angen ei wneud i helpu ysgolion i ehangu mynediad i’r celfyddydau.”  

Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:  

“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod cynifer â phosibl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, yn ogystal ag ehangu mynediad i’n hamgueddfeydd, ein llyfrgelloedd a’n safleoedd treftadaeth, gan dargedu teuluoedd incwm isel a phlant yn benodol i gael mynediad i’n gwasanaethau.

“Rydym yn ymwybodol y gall wrthrychau celfyddydol wneud cyfraniad unigryw, penodol i allu person ifanc i ddychmygu, creu a chyfathrebu, fel eu bod yn dod yn unigolion hyderus a chreadigol.  

“Mae sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen yn helpu inni godi proffil y celfyddydau ym myd addysg a mynd ymlaen gydag agenda o fynediad a chyfranogiad cyffredinol.”  

Bydd ysgolion a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru yn rhan o’r ymgynghoriad yn ystod cyfnod yr adolygiad.  Bydd y grŵp yn edrych ar arfer da yng Nghymru ac mewn mannau eraill, ac yn cyflwyno argymhellion drafft i Weinidogion yn ystod Mawrth 2013.  Cyhoeddir yr adroddiad erbyn yr haf 2013.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 05 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Programme for Government - Education Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i