Caiff grŵp gorchwyl a gorffen ei sefydlu i ddatblygu gwaith yr adolygiad. o dan gadeiryddiaeth yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar wella safonau ac amrywiaeth y celfyddydau mewn ysgolion. Bydd aelodau’r grŵp yn edrych ar yr hyn y mae ysgolion yn ei wneud i annog pobl ifanc i gyfranogi yn y celfyddydau, sut mae’r sector celf yn cysylltu ag ysgolion a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr – yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Bydd yr adolygiad hefyd yn nodi arfer gorau a’r rhwystrau i arfer gorau, gan wneud argymhellion ynghylch sut y gallai sefydliadau celf helpu ysgolion i ddatblygu sgiliau creadigol.
Wrth gyhoeddi’r adolygiad heddiw, dywedodd Leighton Andrews y Gweinidog Addysg:
“Mae angen inni wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc - yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig - yn dod i gysylltiad â’r celfyddydau ac yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau creadigol.
“Mae’n hanfodol ein bod yn nodi ac yn meithrin arferion da ac yn edrych ar sut y gellir defnyddio’r celfyddydau yn y dull mwyaf effeithiol mewn ysgolion – er enghraifft, i gynorthwyo gyda dysgu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig llythrennedd, ac i ddatblygu lles emosiynol ac addysgu dysgwyr am faterion cymdeithasol.
“Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn rhoi darlun llawer cliriach inni o sut y mae ysgolion a sefydliadau celfyddydol yn rhyngweithio â’i gilydd, a’r hyn sydd angen ei wneud i helpu ysgolion i ehangu mynediad i’r celfyddydau.”
Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:
“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod cynifer â phosibl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, yn ogystal ag ehangu mynediad i’n hamgueddfeydd, ein llyfrgelloedd a’n safleoedd treftadaeth, gan dargedu teuluoedd incwm isel a phlant yn benodol i gael mynediad i’n gwasanaethau.
“Rydym yn ymwybodol y gall wrthrychau celfyddydol wneud cyfraniad unigryw, penodol i allu person ifanc i ddychmygu, creu a chyfathrebu, fel eu bod yn dod yn unigolion hyderus a chreadigol.
“Mae sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen yn helpu inni godi proffil y celfyddydau ym myd addysg a mynd ymlaen gydag agenda o fynediad a chyfranogiad cyffredinol.”
Bydd ysgolion a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru yn rhan o’r ymgynghoriad yn ystod cyfnod yr adolygiad. Bydd y grŵp yn edrych ar arfer da yng Nghymru ac mewn mannau eraill, ac yn cyflwyno argymhellion drafft i Weinidogion yn ystod Mawrth 2013. Cyhoeddir yr adroddiad erbyn yr haf 2013.











