Wrth i Aelodau’r Cynulliad barhau i drafod materion sy’n ymwneud â chael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, bydd ugain o ddisgyblion Bl. 12 o ddeg o ysgolion yn rhoi eu barn gerbron Theodore Huckle CF, y Cwnsler Cyffredinol a prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, a hynny fel rhan o fenter Camu i Fyny - Ysgol Haf y Gyfraith.
Mae’r Ysgol Haf yn cael ei rhedeg ar y cyd â Phrifysgol Abertawe fel rhan o fenter y Gyfraith a’r Cymoedd, a’i nod yw rhoi profiad uniongyrchol i bobl ifanc o astudio’r gyfraith ac o brosesau proffesiwn y gyfraith. Mae wedi ei hanelu at ddisgyblion mewn ysgolion sydd heb draddodiad cryf o fynd ymlaen i addysg uwch ond sydd â diddordeb yn y posibilrwydd o ddilyn gyrfa yn y gyfraith.
Y thema eleni yw ‘Y Gyfraith a Llywodraeth’, a thros y tridiau bydd yr Ysgol Haf yn rhoi cyfle hefyd i’r disgyblion fynd o gwmpas y Cynulliad Cenedlaethol yn y Bae, dysgu rhagor am lywodraeth yng Nghymru, astudio’r gyfraith yn y brifysgol, ac agweddau eraill ar fywyd myfyriwr. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys ymchwilio, gwaith prosiect a gweithdai ymarferol, a bydd pob disgybl yn rhoi cyflwyniad ar ei waith.
Dywedodd yr Athro Norman Doe o Brifysgol Caerdydd, a sefydlodd y fenter yn 2002:
"Cafodd menter y Gyfraith a’r Cymoedd ei sefydlu’n wreiddiol i annog disgyblion i ystyried y posibilrwydd o astudio’r gyfraith yn y brifysgol. Mae’r Ysgol Haf yn rhan annatod o’r fenter, a phob blwyddyn mae safon y disgyblion, eu hegni a’u brwdfrydedd, yn ardderchog – maen nhw’n glod i’w hysgolion. Yn y digwyddiad, bydd y disgyblion yn edrych ar le’r gyfraith mewn cymdeithas, y ffordd y mae’n treiddio i fywyd unigolion, a’i rhan sylfaenol yn ceisio sicrhau cydlyniant a chyfiawnder cymdeithasol."
Meddai Theodore Huckle CF:
"Fel rhywun a fu’n ddigon ffodus i gael cyfle i fynd i’r brifysgol a dilyn gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith, rwy’n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i annog disgyblion sydd heb ystyried mynd i’r brifysgol i wneud hynny.
"I lawer o’r disgyblion y ces y pleser o’u cyfarfod, mae datganoli wedi bod yn realiti am y rhan fwyaf o’u bywydau. Mewn mater o wythnosau, byddwn yn gweld digwyddiad hynod arwyddocaol yn hanes cyfansoddiadol ein gwlad, wrth i Ddeddf gyntaf y Cynulliad, a basiwyd dan ein pwerau newydd, dderbyn Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines. Dyma adeg cyffrous iawn i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru.
"Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i rannu fy mhrofiadau o addysg uwch gyda’r disgyblion, ac i roi cipolwg iddyn nhw ar broffesiwn y gyfraith – gan gynnwys fy ngwaith i fel Cwnsler Cyffredinol Cymru. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt."
Mae Camu i Fyny - Ysgol Haf y Gyfraith yn un o nifer o ysgolion haf sy’n cael eu cynnal yr wythnos hon gan Dîm Ehangu Mynediad Prifysgol Caerdydd er mwyn annog myfyrwyr sydd heb draddodiad cryf o fynd ymlaen i addysg brifysgol i ystyried gyrfaoedd proffesiynol. Bydd 60 yn rhagor o ddisgyblion yn treulio tridiau yn yr ysgol haf Mynediad i’r Proffesiynau sy’n ceisio cynyddu’r uchelgais i ddilyn dewis ehangach o yrfaoedd proffesiynol, gan gynnwys meddygaeth, fferylliaeth, ffisiotherapi a busnes.











