Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ym mis Ebrill 2010. Bydd y grŵp cynghori yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Ei ddiben fydd rhoi cyngor ar ddatblygiad y Strategaeth, yn arbennig o ran cydlynu’r broses o gynllunio’r ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd ag arbenigedd a phrofiad o faterion sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau fydd 16 Gorffennaf 2012.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei hail adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau:
“Mae’r ail flwyddyn o weithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg bellach wedi dod i ben, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos cynnydd da o ran nodau ac amcanion y strategaeth. Ond mae angen mynd i’r afael â nifer o heriau o hyd.
Mae’n rhaid gweld codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd fel blaenoriaeth i bawb, ac ni ddylai unrhyw un danbrisio’r her o ddatblygu llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae angen i ni hefyd gofio bod llai na 20% o ddisgyblion ein hysgolion uwchradd yn manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, felly, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu i wella darpariaeth y Gymraeg fel ail iaith ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch i gyn-aelodau’r grŵp cynghori am eu gwaith ac rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gydag aelodau newydd pan gânt eu penodi. Bydd y grŵp newydd yn chwarae rôl bwysig iawn wrth ein helpu i wynebu’r heriau a chyflawni amcanion ein Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.”











