Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dawnsiwr yn ennill gwobr dysgwr y flywddyn

Mae dawnsiwr talentog o’r Barri, a enillodd ysgoloriaeth i ysgol ddawns uchel ei bri yn Llundain wedi’i enwi’n Ddysgwr y Flwyddyn Cymhwyster Galwedigaethol Cymru.
Dydd Mercher 20 Mehefin 2012
Adam Taylor, o'r Barri, Dysgwr y Flwyddyn Cymwyster Galwedigaethol Cymru
Dawnsiwr yn enill gwobr dysgwr y flywddyn

Mae dawn arbennig a brwdfrydedd Adam Taylor, sy’n ddeunaw mlwydd oed wedi sicrhau canmoliaeth eisoes yn yr Eisteddfod ac ar raglen ‘Don’t Stop Believing’ sydd yn cael ei darlledu ar Sianel 5. Yn ogystal, mae wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £60,000 i goleg byd-enwog sef y Bird College of Performing Arts yn Llundain.

Roedd Adam ymhlith chwe myfyriwr a phrentis talentog o Gymru benbaladr a enwebwyd ar gyfer y wobr. Roeddynt yn arddangos sgiliau’n ymwneud â meysydd mor amrywiol â ffatrioedd, siopau trin gwallt a harddwch, meithrinfeydd, canolfannau chwaraeon a siopau cigyddion.

Roedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr. Yno, llwyddodd i ennill rhagoriaeth driphlyg yn ei Diploma Lefel 3 mewn Theatr Cerdd.

Cyflwynodd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, y wobr i Adam. Estynnodd Mr Cuthbert ei longyfarchiadau i’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar eu llwyddiannau, eu hymrwymiad a’u talent sy’n eu gosod mewn cae ar wahân i’w cyfoedion.

Dywedodd Mr Cuthbert:

 
“Hoffwn longyfarch Adam Taylor ar ennill y wobr eleni. Mae ef a’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi profi y gallwch wneud llawer â chymwysterau galwedigaethol. Rwyf yn gobeithio y bydd eu hanes nhw yn ysbrydoli eraill.

Yn aml, nid yw cymwysterau galwedigaethol yn cael y proffil uchel y maent yn ei haeddu ond maent yn hynod werthfawr wrth baratoi pobl ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn nifer o feysydd gwahanol. Mae ansawdd y dysgu galwedigaethol hwn, fel yr arddangoswyd gan y bobl gwbl arbennig hyn, yn gonglfaen i ddyfodol Cymru fel economi sy’n gallu cystadlu ag eraill.”

Roedd y seremoni wobrwyo yn ganolbwynt i ddathliadau’r Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys digwyddiadau arbennig yng Nghaerdydd a Llandrillo-yn-Rhos fel bod modd i ymwelwyr rhoi cynnig ar y wahanol sgiliau galwedigaethol. Trefnir y diwrnod yng Nghymru gan Colegau Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a chaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 20 Mehefin 2012 Programme for Government - Education Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i