Bydd Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) yn:
- darparu proses gliriach ar gyfer ymyrryd mewn ysgolion ac ar gyfer gwella ysgolion drwy gyflwyno canllawiau statudol.
- diwygio'r broses statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion fel y bo penderfyniadau'n cael eu gwneud yn lleol pryd bynnag y bo modd.
- diddymu’r gofyniad i Gyrff Llywodraethu Ysgolion gynnal Cyfarfodydd Blynyddol Rhieni a chyflwyno hawl newydd i rieni alw cyfarfodydd gyda Chyrff Llywodraethu Ysgolion.
- rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac ysgolion o ran pennu prisiau prydau ysgol.
- prif ffrydio sawl rhaglen a ariennir gan grant er mwyn symleiddio'r prosesau presennol.
- gwneud awdurdodau lleol yn atebol am gynllunio'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy roi sail statudol i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Dywedodd Leighton Andrews:
"Mae addysg yn rhan gwbl ganolog o'n Rhaglen Lywodraethu. Dylai holl blant a phobl ifanc Cymru gael manteisio ar yr addysg orau a fydd o les iddynt gydol eu bywydau. Mae lleihau biwrocratiaeth a gwella safonau mewn ysgolion yn hanfodol yn hyn o beth.
"Bydd y Bil a osodwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn ein galluogi i godi safonau mewn ysgolion drwy ddarparu canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar wella ysgolion. Bydd y canllawiau hynny'n fodd i sicrhau bod arferion da yn cael eu defnyddio mewn ffordd gyson ledled y wlad.
"Bydd y Bil yn cefnogi'r awdurdodau lleol drwy sicrhau eu bod y deall y pwerau sydd ganddynt i ymyrryd pan fo ysgolion yn tanberfformio. Bydd hefyd yn symleiddio'r broses trefniadaeth ysgolion, yn enwedig yng nghyd-destun cau ysgolion sydd ag ychydig o ddisgyblion neu ddim disgyblion. Bydd hyn yn lleihau'r ansicrwydd sy'n wynebu rhieni a disgyblion ar hyn o bryd.
"Bydd y Bil yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol o ran codi tâl am brydau ysgol er mwyn iddynt fedru helpu plant o deuluoedd incwm isel sydd heb fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
"Bydd hefyd yn helpu i gefnogi datblygiad y Gymraeg drwy sicrhau bod gan awdurdodau lleol gynlluniau strategol i gefnogi ac i wella darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg.
"Dw i wedi bod yn gwbl glir am fy awydd i wella safonau a pherfformiad ar draws y maes addysg yng Nghymru. Mae'r Bil dw i wedi'i osod heddiw yn gam mawr ymlaen yn hynny o beth."











