Bydd y Fframwaith yn pennu’r canlyniadau blynyddol y disgwylir i ysgolion eu cyflawni o ran llythrennedd a rhifedd dysgwyr 5-14 oed.
Bydd hyn yn helpu athrawon ar draws y pynciau i gyd i wybod sut y dylent fynd ati i wella llythrennedd a rhifedd ledled y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael mwy o lwyddiant.
Bydd profion darllen a rhifedd penodol yn rhan bwysig o’r Fframwaith. Byddan nhw’n galluogi athrawon i nodi’n glir gynnydd a datblygiad sgiliau’r dysgwyr.
Yn y tymor hir, bydd y Fframwaith yn rhoi i athrawon yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i gynllunio eu rhaglenni addysgu, gan dynnu eu sylw at achosion lle mae angen rhagor o gymorth ar ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd cadw i fyny.
Meddai Leighton Andrews:
“Dw i wedi datgan yn glir fy mwriad i wella safonau a pherfformiad yn gyffredinol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar lythrennedd a rhifedd. Mae hynny’n hanfodol os ydyn ni am sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i wireddu ei botensial yn llawn.
“Sgiliau llythrennedd a rhifedd da yw conglfaen ein cynlluniau i wella addysg yng Nghymru. Bydd y Fframwaith a gyhoeddwyd heddiw yn helpu athrawon i sicrhau bod plant yn llwyddo ac yn cael y canlyniadau gwell a ddisgwylir.”
Cyflwynir y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol mewn ysgolion ym mis Medi 2012, a bydd ar waith ar draws Cymru gyfan erbyn 2013.











